Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad: Polisi Gorfodi

Datganiad gweithredol

Bydd y Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad yn gorfodi deddfwriaeth berthnasol mewn modd cadarn a theg i ddiogelu unigolion ac atal niwed i gymunedau, a hynny heb rwystro twf busnesau da yn ormodol.

Wrth arfer ein dyletswyddau gorfodi a rheoleiddio byddwn ni'n:

  • Deg ac yn gyson
  • Agored a thryloyw
  • Yn barod i helpu
  • Cymesur

Mynd yn syth i:

  1. Cyflwyniad
  2. Ymchwilio i Dorri Rheolau a Gorfodi'r Gyfraith
  3. Egwyddorion y Polisi Gorfodi
  4. Awdurdodi swyddogion
  5. Archwiliadau
  6. Casglu tystiolaeth
  7. Dewisiadau gorfodi
  8. Dim Camau Gweithredu
  9. Cwynion yn ymwneud â'r ffordd yr ydym ni wedi ymdrin â chi
  10. Deddf Enillion Troseddau 2002
  11. Statws y Protocol a'r Polisi
  12. Dogfennau a Chanllawiau Cysylltiedig
  13. Cysylltiadau

1. Cyflwyniad

Mae Gwasanaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad Sir Ddinbych wedi ymrwymo i ddiogelu iechyd a lles y cyhoedd; gwarchod a gwella amgylchedd naturiol ac adeiledig y Sir; a hybu twf yn yr economi leol. Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rheoleiddio sy’n gost effeithiol ac sy’n cynnwys ein cymunedau, busnesau a'n partneriaid.

Mae'r Polisi Gorfodi yn berthnasol i bob swyddogaeth reoleiddio yn y Gwasanaeth a dylid ei ddarllen ochr yn ochr ag unrhyw ddogfen berthnasol arall a fabwysiadwyd (e.e. Siarter Cydymffurfiaeth Cynllunio):

  • Iechyd a lles anifeiliaid
  • Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Rheoli adeiladu
  • Gorfodaeth Sifil
  • Diogelwch a hylendid bwyd
  • Safonau / Labelu Bwyd
  • Iechyd a diogelwch yn y gwaith
  • Trwyddedu
  • Cynllunio
  • Rheoli llygredd
  • Tai sector preifat (gan gynnwys Tai Amlfeddiannaeth)
  • Iechyd Cyhoeddus
  • Safonau Masnach
  • Trefniadau Gorfodi o ran Traffig a Pharcio

Mae rhagor o wybodaeth am y swyddogaethau hyn ar gael ar wefan y Cyngor ac ar ein tudalen Busnes.

Mae'r swyddogaethau hyn yn gorfodi amrywiaeth o ddeddfwriaeth a gynlluniwyd i ddiogelu iechyd, lles a hawliau unigolion heb amharu’n ddiangen ar allu busnesau i weithredu.

Pwrpas y Polisi Gorfodi yw amlinellu’r hyn y gall unigolion a busnesau ei ddisgwyl gan y gwasanaeth wrth orfodi’r gyfraith. Ar yr un pryd, mae’r polisi'n ymrwymo ein swyddogion gorfodi i gynnal gweithgareddau gorfodi mewn modd teg a chyson, gan fod yn agored a thryloyw, yn gymesur ac yn barod i helpu.

Yn ôl i'r brig.

2. Ymchwilio i Dorri Rheolau a Gorfodi'r Gyfraith

Bydd Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad yn ymchwilio i achosion honedig o fynd yn groes i ddeddfwriaeth, gan ystyried polisïau, siarteri a gweithdrefnau perthnasol y Cyngor a fabwysiadwyd, yn ogystal ag ymchwilio i godau ymarfer a nodiadau canllaw wedi’u cyhoeddi gan y Llywodraeth a chyrff proffesiynol perthnasol. Byddwn ni’n cymryd camau gweithredu priodol perthnasol, gan ystyried natur a difrifoldeb y rheolau a dorrwyd a'r effaith y gallai fod yn ei chael ar unigolion, busnesau a defnyddwyr.

Nid yw o reidrwydd yn golygu yr ymchwilir i bob achos honedig o dorri rheolau nac y bydd pob achos o dorri rheolau yn cael ei orfodi. Bydd pob achos yn cael ei asesu yn ôl ei rinweddau, gan roi ystyriaeth i nifer o ffactorau gan gynnwys:

  • Lefel y niwed neu’r niwed posibl a achoswyd yn sgil torri'r rheolau.
  • Yr angenrheidrwydd i ymyrryd gan ystyried amwynder cyhoeddus.
  • Cwynion trallodus.
  • Pwy sy’n gyfrifol am ymchwilio ac unioni’r achos honedig o dorri rheolau - efallai mai corff rheoleiddio arall fydd yn gyfrifol.

Os rhoddir gwybod am achos honedig o dorri rheolau i'r Gwasanaeth, ac, oherwydd natur yr achos honedig o dorri rheolau, mai corff rheoleiddio arall sy’n gyfrifol am ymchwilio i’r achos honedig o dorri rheolau, byddwn ni’n ceisio rhoi gwybod i’r corff perthnasol yn unol â hynny.

Gallai’r Gwasanaeth flaenoriaethu ei ymchwiliadau gan ystyried y canlynol:

  • Lefel y niwed neu’r niwed posibl a achoswyd yn sgil torri'r rheolau.
  • Blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor, fel y nodir gan drigolion.
  • Polisïau a dogfennau eraill y Cyngor a fabwysiadwyd.

Yn ôl i'r brig.

3. Egwyddorion y Polisi Gorfodi

Bydd y Gwasanaeth yn ymdrechu i gadw at yr egwyddorion craidd canlynol:

Egwyddor 1: Byddwn ni'n cynnal gweithgareddau rheoleiddio mewn modd teg a chyson.

  • Bydd dyletswydda'n cael eu cyflawni mewn modd teg a chyfartal ac mewn modd nad yw’n gwahaniaethu er mwyn sicrhau nad yw rhywedd, oed, tarddiad ethnig, credoau crefyddol, barn wleidyddol neu ffafriaeth rywiol y sawl yr honnir iddo dorri’r rheolau, y sawl sy’n cwyno, y dioddefwr/dioddefwyr neu dyst(ion) yn dylanwadu ar benderfyniadau.
  • Byddwn ni bob amser yn sicrhau ymagwedd deg a diduedd; nid yw hyn, fodd bynnag, yn golygu unffurfiaeth gan fod bob amser nifer o wahanol ffactorau a fydd yn berthnasol wrth benderfynu ar unrhyw gamau gweithredu.
  • Byddwn ni’n adolygu pa mor gyson ac effeithiol yw ein gweithgareddau rheoleiddio ni wrth ddarparu’r canlyniadau dymunol, a gwneud y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau gwelliannau.

Egwyddor 2: Byddwn ni'n agored i ystyried eich barn, a byddwn ni'n cynnal ein gweithgareddau rheoleiddio mewn modd tryloyw.

  • Byddwn ni’n darparu trefn gwyno wedi’i hegluro’n glir sy’n caniatáu i unrhyw un wneud cwyn yn rhwydd am ymddygiad rheoleiddiwr.
  • Byddwn ni’n sicrhau bod y partïon perthnasol i gyd, gan gynnwys unigolion, sefydliadau neu fusnesau y mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol iddynt, yn ogystal ag unrhyw bobl sy’n cwyno neu drydydd parti â diddordeb yn deall yr ymchwiliadau ac unrhyw gamau gorfodi dilynol.
  • Wrth ymateb i unrhyw fethiant i gydymffurfio, byddwn ni’n egluro’n glir beth yw’r achos o fethu â chydymffurfio, y cyngor sy’n cael ei roi, y camau gweithredu sydd eu hangen neu’r penderfyniadau a gymerwyd a’r rhesymau dros y rhain.
  • Bydd y partïon perthnasol i gyd yn cael gwybod am gynnydd ynghylch unrhyw archwiliadau ac unrhyw gamau dilynol, fel yr ystyrir yn rhesymol yn ymarferol a gan ystyried diogelu data.
  • Pan fo hynny’n briodol, byddwn ni’n rhoi pwynt cyswllt a rhif ffôn i’n budd-ddeiliaid ar gyfer cysylltiadau pellach gyda ni yn y dyfodol.
  • Byddwn ni’n ystyried pob cais ar gyfer rhyddhau gwybodaeth, yn amodol ar egwyddorion Diogelu Data a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
  • Er lles y cyhoedd, bydd materion yn ymwneud â methiant i gydymffurfio yn cael eu rhannu, pan fo hynny’n briodol, â chyrff rheoleiddio eraill. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd sylw priodol yn cael ei roi i ddarpariaethau’r Ddeddf Diogelu Data.

Egwyddor 3: Byddwn ni'n barod i helpu trigolion a busnesau drwy sicrhau bod gwybodaeth, arweiniad a chyngor clir ar gael, a drwy leihau ceisiadau beichus.

  • Rydym ni’n cydnabod bod y rhan fwyaf o fusnesau ac unigolion eisiau cydymffurfio â’r gyfraith. Byddwn ni’n rhoi cyngor a chyfarwyddyd sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo trigolion a busnesau i ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol, gan wahaniaethu rhwng gofynion cyfreithiol ac arferion da.
  • Wrth gynllunio ac adolygu polisïau a gweithdrefnau, byddwn ni’n ystyried sut y gallen nhw gefnogi twf economaidd busnesau da. Er enghraifft, byddwn ni’n ystyried sut y gall ein polisïau a’n gweithdrefnau ni sicrhau’r canlynol yn y ffordd orau:
    • Deall a lleihau effeithiau economaidd negyddol.
    • Lleihau costau ariannol cydymffurfio.
    • Rhoi rhagor o sicrwydd drwy annog cysondeb.
    • Sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn yr un modd gan sicrhau ein bod ni’n mynd i’r afael â busnesau sy’n mynd yn groes i ddeddfwriaeth berthnasol yn gyson.
  • Bydd unrhyw ganllawiau yr ydym ni’n eu darparu mewn fformat clir, hygyrch a chryno a byddwn ni’n defnyddio cyfryngau sy’n briodol ar gyfer y gynulleidfa darged. Byddwn ni’n ceisio ysgrifennu mewn iaith glir.
  • Byddwn ni’n ceisio creu amgylchedd lle mae gan yr unigolion yr ydym ni’n eu rheoleiddio hyder yn y cyngor maen nhw’n ei gael, ac yn teimlo eu bod nhw’n gallu gofyn am gyngor heb ofni y bydd yn arwain at gamau gorfodi.
  • Byddwn ni’n gweithio i osgoi creu baich rheoleiddio diangen drwy ein gweithgareddau rheoleiddio, a byddwn ni’n asesu a ellid cyflawni canlyniadau amgylcheddol ac academaidd drwy ddulliau llai beichus.
  • Bydd gennym ni fecanweithiau ar waith i weithio ar y cyd i gynorthwyo’r unigolion sy’n cael eu rheoleiddio gan fwy nac un corff rheoleiddio. Ymdrinnir ag achosion sy’n gofyn am arbenigedd gan fwy nag un asiantaeth neu swyddogaeth o’r Cyngor, pan fo hynny’n ymarferol, ar sail gydlynol, amlasiantaethol neu aml-adrannol.
  • Wrth geisio cael datrysiad i achos honedig o dorri rheolau, byddwn ni’n esbonio’r canlynol yn glir:
    • beth yw’r achos honedig o dorri rheolau
    • camau gweithredu sydd eu hangen a’r rheswm/ rhesymau dros hyn
    • y ffordd orau i ddatrys yr achos o dorri rheolau
    • unrhyw gosbau am beidio â chydymffurfio
  • Pan fo’r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad rheoleiddio ar gael, byddwn ni’n darparu llwybr apelio diduedd ac wedi’i egluro’n glir.

Egwyddor 4: Byddwn ni'n cyflawni ein swyddogaethau mewn modd cymesur sy'n cydbwyso anghenion yr unigolion yr ydym ni'n eu rheoleiddio â budd y cyhoedd.

  • Wrth benderfynu ar gamau gorfodi, byddwn ni’n dewis ymyriadau sydd ar raddfa a math sy’n adlewyrchu’r niwed, boed yn wirioneddol neu’n bosibl, y mae’r achos o dorri rheolau yn ei achosi i iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a/neu’r economi.
  • Pan fo hynny’n ymarferol, byddwn ni’n ceisio datrys unrhyw achos o dorri rheolau yn gyfeillgar a thrwy drafod, er y bydd adegau pan fydd angen camau gorfodi uniongyrchol.
  • Byddwn ni’n cydnabod cofnodion cydymffurfio’r unigolion yr ydym ni’n eu rheoleiddio.

Yn ôl i'r brig.

4. Awdurdodi swyddogion

Dim ond swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant, sydd â chymwysterau neu sydd â phrofiad perthnasol fydd yn cael eu hawdurdodi i gynnal ymchwiliad a chymryd camau Gorfodi.

Caiff awdurdodiadau swyddogion unigol eu hadolygu’n rheolaidd.

Mae gofyn i Swyddogion ddangos eu hawdurdodiadau pan ofynnir amdanynt.

Mae gan Swyddogion ag awdurdod priodol hawliau mynediad i archwilio eiddo at ddibenion sy’n ymwneud â gorfodi.

Yn ôl i'r brig.

5. Archwiliadau

Mae’r Gwasanaeth yn cynnal y mathau canlynol o archwiliadau:

  • Archwiliadau wedi eu trefnu
  • Archwiliadau yn dilyn cwynion
  • Archwiliadau dilynol

Archwiliadau wedi eu trefnu

Mae swyddogion yn ymweld â sawl eiddo yn sgil archwiliad arferol wedi’i drefnu ymlaen llaw yn seiliedig ar asesiad risg. Pwrpas yr archwiliad yw sicrhau cydymffurfiaeth o ddydd i ddydd â deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol.

Archwiliadau yn dilyn cwynion

Ar ôl cael cwynion sy’n honni bod rheolau wedi cael eu torri, bydd swyddogion yn cydnabod ac yn ymchwilio i’r achos honedig o dorri rheolau, ac yn cymryd unrhyw gamau adferol yn unol â hynny.

Yn y rhan fwyaf o achosion – ond nid bob tro – bydd y broses ymchwilio yn cynnwys archwiliad ar y safle.

Dan amgylchiadau priodol, mae’n bosibl y byddwn ni’n gofyn i’r rhai sy’n gwneud cwyn i gadarnhau honiad â thystiolaeth.

Archwiliadau dilynol

O ganlyniad i’r ddau fath uchod o archwiliadau bydd angen i swyddogion, o bryd i’w gilydd, gynnal archwiliadau dilynol i sicrhau cydymffurfiaeth.

Hawliau mynediad

Mae gan Swyddogion ag awdurdod priodol hawliau mynediad statudol i archwilio eiddo at ddibenion sy’n ymwneud â gorfodi.

Yn ôl i'r brig.

6. Casglu tystiolaeth

Mae gan Swyddogion Gorfodi amrywiaeth eang o ddyletswyddau a grymoedd i’w helpu nhw i ymchwilio i achosion posibl o dorri rheolau.

Pan fydd y ddeddfwriaeth yn caniatáu, gall swyddog fynd i mewn i eiddo, tynnu lluniau, mynd ag eitemau, cymryd samplau neu ofyn am wybodaeth ac, mewn rhai achosion, gall unigolion eraill fod gyda’r swyddog.

Os yw unigolion neu gwmnïau yn atal swyddogion neu os nad ydyn nhw’n cyflwyno’r wybodaeth sydd ei hangen, gall hyn fod yn drosedd. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i gymryd camau cyfreithiol yn unol â hynny.

Pan fo hynny’n briodol, gall Swyddogion roi rhybudd i unrhyw unigolyn er mwyn cymryd datganiadau ffurfiol i gynorthwyo ag unrhyw ymchwiliad a / neu gamau gorfodi dilynol, gan gynnwys erlyniadau.

Yn ôl i'r brig.

7. Dewisiadau gorfodi

Mae nifer o ddewisiadau gorfodi ar gael i ni, yn dibynnu ar amgylchiadau penodol yr achos.

Cyngor/Rhybudd ar Lafar

Pan fydd trosedd gymharol fach wedi’i chyflawni ac nad yw’n cael ei hystyried yn briodol i gymryd unrhyw gamau ffurfiol, bydd cyngor yn cael ei roi. Mae’n debygol y byddai achos tebyg o dorri rheolau yn y dyfodol yn arwain at ryw fath o gamau ffurfiol. Byddai'r cyngor yn cynnwys rhybudd ysgrifenedig i’r perwyl hwn.

Rhybuddion Cosb Benodedig

Pan fo'r ddeddfwriaeth berthnasol yn darparu ar gyfer y dewis hwn, efallai y byddwn ni’n rhoi Rhybudd Cosb Benodedig, fel ffordd effeithiol ac amlwg o ymateb i droseddu llai difrifol. Mae Rhybudd Cosb Benodedig yn rhoi cyfle i osgoi cael eich erlyn drwy dalu cosb. Nid yw’n arwain at gofnod troseddol i’r troseddwr.

Dim ond os oes digon o dystiolaeth i gefnogi erlyniad y bydd Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei roi.

Pan nad yw Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei dalu o fewn yr amser penodol, bydd erlyniad yn cael ei ddwyn yn erbyn y troseddwr am y drosedd wreiddiol.

Ni fyddwn yn cynnig Rhybudd Cosb Benodedig os ydym ni’n credu bod camau eraill yn fwy priodol. Er enghraifft, byddwn ni’n ceisio erlyn os ydym ni’n credu fod y drosedd yn achos arwyddocaol o dorri rheolau, os yw’r drosedd yn cael ei chyflawni gan droseddwr cyson neu os yw’r troseddwr yn dreisgar neu’n ymosodol.

Hysbysiadau a Gorchmynion Statudol

Gallai nifer o hysbysiadau statudol gael eu rhoi gan y Gwasanaeth. Mae’r rhain yn cynnwys hysbysiadau gwella, hysbysiadau gwahardd, hysbysiadau atal dros dro, hysbysiadau atal neu hysbysiadau gorfodi o ran cynllunio.

Bydd yr hysbysiadau hyn yn cael eu cyflwyno pan fydd y meini prawf yn y ddeddfwriaeth berthnasol wedi’u cyflawni ac yr ystyrir ei bod yn briodol i wneud hynny. Gallai hysbysiadau statudol gael eu defnyddio yn lle mathau eraill o gamau gorfodi neu yn ogystal â nhw.

Amrywio neu ddiddymu Trwyddedau, Cymeradwyaeth, Awdurdodiadau a Hawlenni

Os yw deiliad trwydded, cymeradwyaeth, awdurdodiad neu hawlen yn torri ei amodau, yn mynd yn groes i unrhyw gyfraith berthnasol neu’n dangos drwy eu gweithredoedd neu anweithiau nad yw’n unigolyn addas, gallem ni ddefnyddio ein grymoedd statudol i amrywio ei delerau neu ei ddirymu.

Fel arall, gallem ni gyfeirio’r mater at y pwyllgor perthnasol yn y Cyngor, a fydd yn ystyried a fyddai’n briodol atal, dirymu neu addasu telerau’r drwydded, cymeradwyaeth, awdurdodiad neu hawlen.

Ni all y Cyngor ddirymu neu ddiwygio caniatâd cynllunio yn ôl-weithredol, er y gall gyflwyno hysbysiadau torri amodau pan fo amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd yn cael eu torri a bod niwed yn cael ei nodi.

Hysbysiadau Atal, Hysbysiadau Atal Dros Dro a Chamau Adferol Brys

Pan fyddwn ni’n nodi perygl a allai gyflwyno risg uniongyrchol o niwed i iechyd neu amwynder y cyhoedd, mae’n bosib y byddwn ni’n cyflwyno hysbysiad atal neu hysbysiad atal dros dro neu’n cymryd camau gorfodi brys ac mewn rhai amgylchiadau, byddwn ni’n cyflawni’r gwaith adferol angenrheidiol. Byddwn ni bob amser yn ceisio adennill unrhyw gostau pan fo hynny’n briodol.

Camau dan y Ddeddf Menter

Mae Rhan 8 Deddf Menter 2002 yn galluogi cyrff gorfodi i gymryd gorchmynion llys (sy’n debyg i waharddebau) yn erbyn busnesau nad ydynt yn cydymffurfio â’u hymrwymiadau cyfreithiol tuag at ddefnyddwyr, e.e. drwy wrthod rhoi ad-daliad pan fod nwyddau’n ddiffygiol.

Cyn gofyn am orchymyn llys, byddwn ni fel arfer yn gwahodd y busnes dan sylw i ymateb i’r cyhuddiadau yn ei erbyn. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y busnes yn cael cynnig cyfle i roi ymrwymiad terfynol (ymgymeriad) i atal yr ymddygiad sy’n niweidio buddiannau defnyddwyr ac efallai y gwneir cais am orchymyn llys os caiff yr ymgymeriad hwnnw ei dorri.

Rhybudd Syml

Nod y rhybudd syml yw ymdrin â throseddau llai difrifol yn gyflym ac yn syml ac osgoi ymddangosiadau diangen yn y llysoedd troseddol.

Mae rhybudd syml yn rhybudd ffurfiol y gellir ei roi i droseddwr 18 oed neu hŷn sydd wedi gwneud cyfaddefiad clir, dibynadwy a gwirfoddol i bob elfen o’r drosedd. Dim ond pan fydd meini prawf penodol yn cael eu bodloni y gellir rhoi rhybudd syml.

Mae rhybudd syml yn gyfaddefiad o euogrwydd, ond nid yw'n euogfarn droseddol nac yn fath o ddedfryd. Bydd cofnod o’r rhybudd syml yn cael ei anfon at y cyrff hynny y mae’n ofynnol i’w hysbysu, fel yr Heddlu. Gallai’r ffaith bod rhybudd syml wedi’i dderbyn gael ei ddyfynnu yn y llys os caiff rhagor o droseddau eu cyflawni.

Erlyniad

Mae’r penderfyniad i erlyn yn arwyddocaol ac nid yw’n cael ei wneud ar chwarae bach. Yn gyffredinol, cyfyngir erlyniadau i’r unigolion hynny sy’n amlwg yn diystyru’r gyfraith a hynny’n fwriadol, yn gwrthod cyflawni hyd yn oed y gofynion cyfreithiol sylfaenol lleiaf (yn aml yn dilyn cyswllt blaenorol â’r awdurdod) neu sy’n rhoi’r cyhoedd mewn perygl difrifol. Yn ffodus iawn, nid oes llawer o amgylchiadau fel hyn.

Pan wneir penderfyniad i erlyn, bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud yn unol â’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

Mae’r egwyddorion sydd wedi’u nodi yng Nghod Ymarfer Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gofyn am ddau brawf i lywodraethu’r broses o wneud penderfyniadau.

Y Prawf Tystiolaethol

Bydd yr Erlynydd yn fodlon bod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn yn erbyn pob diffynnydd ar bob cyhuddiad.

Prawf Budd y Cyhoedd

I bob pwrpas, pan fydd y prawf tystiolaethol wedi pasio, bydd yr erlyniad fel arfer yn bwrw ymlaen oni bai bod ffactorau budd y cyhoedd yn erbyn erlyn sy’n amlwg yn drech na’r rhai o blaid. Mae ffactorau budd y cyhoedd a all effeithio ar y penderfyniad i erlyn fel arfer yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd neu amgylchiadau’r troseddwr.

Bydd y Cyngor yn cymryd pob cam rhesymol i adennill ei gostau o orfod cymryd achosion erlyn.

Bydd y Cyngor hefyd yn cefnogi ceisiadau am Enillion Troseddol pan fo hynny’n briodol mewn trafodaethau â’r Ymchwilydd Ariannol Cymeradwy.

Yn ôl i'r brig.

8. Dim Camau Gweithredu

Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd achosion o dorri'r gyfraith yn cyfiawnhau unrhyw gamau, er enghraifft:

  • Mae camau gorfodi’n amhriodol mewn amgylchiadau, e.e. pan na fyddai’r diffynnydd yn gallu deall a/neu y byddai’n effeithio’n ddifrifol ar ei iechyd neu ei les.
  • Pan fo’r drosedd yn fach iawn, ac mae'r gost o gydymffurfio neu orfodi yn sylweddol uwch nag effaith niweidiol y rheolau a dorrwyd.

Yn ôl i'r brig.

9. Cwynion yn ymwneud â'r ffordd yr ydym ni wedi ymdrin â chi

Os oes gennych chi gŵyn am y ffordd yr ydym ni wedi darparu gwasanaeth, gallwch chi wneud cwyn i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad, yn unol â gweithdrefn gwyno’r Cyngor.

Yn ôl i'r brig.

10. Deddf Enillion Troseddau 2002

Bydd camau gweithredu'n cael eu hystyried mewn rhai achosion perthnasol pan fo’r troseddwr wedi elwa o gyflawni trosedd(au). Y pwrpas yw adennill y budd ariannol a gafwyd. Caiff achosion eu cynnal yn unol â'r safon profi sifil ar ôl cael euogfarn.

Yn ôl i'r brig.

11. Statws y Protocol a'r Polisi

Cafodd y Polisi hwn ei gymeradwyo gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad ym mis Medi 2017.

Yn ychwanegol at y Polisi hwn, bydd gan adrannau unigol o’r gwasanaeth weithdrefnau / safonau mwy manwl eraill yn ymwneud â chamau gorfodi yn eu maes gwaith penodol.

Bydd y Polisi hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol neu phan fo newid sylweddol yn y ddeddfwriaeth neu amgylchiadau eraill sy’n effeithio ar ei effeithiolrwydd a’i ddilysrwydd.

Yn ôl i'r brig.

12. Dogfennau a Chanllawiau Cysylltiedig

Bydd y gwasanaeth yn ystyried amrywiaeth eang o ddeddfwriaeth a dogfennau a gweithdrefnau perthnasol eraill wrth ystyried pa gamau priodol i’w cymryd. Bydd y ddeddfwriaeth a'r dogfennau perthnasol y cafodd eu defnyddio yn cael eu hegluro mewn unrhyw gamau gorfodi ffurfiol y caiff eu cymryd.

Yn ôl i'r brig.

13. Cysylltiadau

Mae fersiwn Gymraeg a fersiynau amgen o'r protocol a'r polisi cysylltiedig hwn ar gael ar gais. Cyfeiriwch at y manylion cyswllt isod.

Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad

Blwch Post 62
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 9AZ

Ebost: emlyn.jones@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: 01824 706350

Yn ôl i'r brig.