Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych
Mae'r Ddeddf yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), sef cyrff o bartneriaid sydd wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd er mwyn asesu lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd, gan osod amcanion sy’n gwneud y mwyaf o gyfraniad y BGC tuag at y Nodau Lles.
Gallwch ddarllen mwy am y Nodau yn y canllaw Hanfodion:
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015: Yr hanfodion (PDF, 2.5MB) (gwefan allanol)
Mae Sir Ddinbych yn rhan o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n gyfrifol am Sir Ddinbych a Chonwy. Mae'r canlynol i gyd wedi’u cynrychioli ar y Bwrdd:
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
Fel cyngor, rydym yn gyfrifol am fynd i’r afael â throsedd ac anhrefn yn Sir Ddinbych mewn modd effeithiol. Bob blwyddyn byddwn yn cynnal asesiad o drosedd, anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad arall sy’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd, a byddwn yn ymgynghori â chymunedau lleol i nodi blaenoriaethu lleol i Sir Ddinbych.
Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i feithrin cymunedau mwy diogel a lleihau trosedd, drwy fynd i'r afael â phedwar prif faes: camddefnyddio sylweddau; trais domestig; ymddygiad gwrthgymdeithasol; a throseddau ieuenctid.
Bwrdd Lleol Diogelu Plant
Mae’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant (BLlDP) yn gyfrifol am ddiogelu plant a phobl ifanc rhag niwed sylweddol ac am hybu eu lles. Y BLlDP fydd yn penderfynu sut y dylid cynllunio, darparu a monitro gwasanaethau diogelu plant lleol. Mae Sir Ddinbych a Chonwy yn cydweithio ar BLlDP ar y cyd ar gyfer y ddwy sir.
Mae gan y BLlDP ddwy brif swyddogaeth: cydlynu gwaith pob asiantaeth i hybu diogelwch a lles plant a sicrhau effeithiolrwydd y gwaith hwnnw. Rhaid i bob asiantaeth gydymffurfio â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a chyfarwyddyd ‘Diogelu Plant: Gweithio gyda'n Gilydd dan Ddeddf Plant 2004’.
Pecyn Gwaith Modelau Darparu Gwasanaethau Amgen
Pecyn Gwaith Modelau Darparu Gwasanaethau Amgen (PDF, 1.37MB)
Pwrpas y ddogfen hon yw eich cyfeirio at wybodaeth y bydd ei hangen arnoch wrth roi ystyriaeth i ddarparu gwasanaethau yn y Cyngor. Mae’n cynnig arweiniad ar fodelau darparu gwasanaethau amgen gan gynnwys trefniadau ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir, gwasanaethau mewnol, darparu gwasanaeth hyd braich, partneriaethau a gweithio ar y cyd. Mae polisïau ac arferion eisoes wedi’u sefydlu ar gyfer y prosesau hyn, a dylai’r ddogfen hon eich helpu i nodi ffordd ymlaen a darparu dolenni cyswllt i fethodoleg, polisi, gofynion craffu, arferion da ac ati.
Mae’n RHAID mynd trwy brosesau cywir y Cyngor wrth ystyried modelau mwy cymhleth, megis y gwasanaethau a gomisiynir a gwasanaethau hyd braich, ac mae'n rhaid gweithio trwyddynt gyda’r Gwasanaeth Cyllid ac Eiddo, Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd a’r Gwasanaeth Caffael.
Mae’n bwysig adolygu ac asesu partneriaethau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cynnig gwerth am arian a bod y canlyniadau a fwriedir yn cael eu cyflawni. Pwrpas y Pecyn Gwaith hwn yw ein helpu, gyda’n partneriaid, i adolygu modelau darparu gwasanaeth yr ydym yn gysylltiedig â nhw, a sicrhau bod trefniadau llywodraethu da mewn lle. Mae’n cyfeirio at bolisïau priodol ac arferion da. Yn ei dro dylai hyn arwain at well atebolrwydd, gwell dealltwriaeth o berfformiad, ac yn dilyn hynny, gwell gwasanaethau i’n cymunedau.
Mae’r Cyngor yn gadarnhaol ynglŷn â chysylltu â phartneriaid ac ynglŷn â phartneriaid yn cysylltu â'r Cyngor i ystyried gwahanol fathau o ddarpariaeth gwasanaeth i wneud y defnydd gorau o'r holl adnoddau er mwyn cael gwell canlyniadau i'n cymunedau. Rydym yn hyblyg o ran gweithio gyda phartneriaid a byddwn yn ystyried y rhan fwyaf o opsiynau.