Adolygiad o Ddosbarthiadau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio 2024
Hysbysaf drwy hyn y cynhelir adolygiad, yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad hwn, yn unol ag Adran 18C (1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, fel ag y mewnosodwyd gan Adran 16 o Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
Graham Boase
Prif Weithredwr
Beth ydym yn ei wneud?
Rydym yn adolygu dosbarthiadau a mannau pleidleisio Sir Ddinbych.
Dosbarth pleidleisio yw ardal ddaearyddol a grëwyd drwy is-rannu ardal etholaethol, hynny yw etholaeth, ward dosbarth neu adran yn rhannau llai
Man pleidleisio yw adeilad neu ardal ble lleolir y gorsafoedd pleidleisio.
Gorsaf bleidleisio yw’r ystafell neu’r ardal yn y man pleidleisio lle bydd y pleidleisio’n digwydd
Pam ydym ni'n gwneud hyn?
Mae gennym ddyletswydd statudol (sy’n golygu bod yn rhaid i ni wneud hyn yn ôl y gyfraith) i adolygu ein dosbarthiadau pleidleisio a’n mannau pleidleisio o leiaf unwaith bob pum mlynedd.
Fel Cyngor, ein nod yw sicrhau:
- Ein bod yn cynnal rhwydwaith o ddosbarthiadau pleidleisio, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio. Ein nod yw sicrhau bod gan y rhwydwaith hwn ddigon o gyfleusterau i hwyluso pobl i fwrw eu pleidlais pryd bynnag y cynhelir etholiad lleol neu genedlaethol.
- Bod mannau pleidleisio yn hygyrch i bobl ag anableddau, cyn belled ag y bo’n ymarferol.
- Dylai unrhyw newidiadau arfaethedig i’r dosbarthiadau pleidleisio a mannau pleidleisio presennol presennol allu dangos cefnogaeth eang o fewn y dosbarth pleidleisio.
Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi cydweithrediad perchnogion eiddo sy’n cynnig eu hadeiladau am y diwrnod fel bod gan etholwyr le cyfleus i bleidleisio.
Mae’n ymddangos bod y dosbarthau pleidleisio a’r mannau pleidleisio presennol yn cael derbyniad da o flwyddyn i flwyddyn gan yr etholwyr gydag ychydig iawn o gwynion am eu lleoliad a hygyrchedd
Dylai unrhyw newidiadau i ddobarthiau pleidleisio neu mannau pleidleisio cael cefnogaeth o leiaf 30 o etholwyr llywodraeth leol cofrestredig, yn unol â’r amcanion a amlinellwyd yn Adran 18D o Ddeddf Cynrychioli’r Bobl 1983.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Hoffem wybod beth yw eich barn am eich dosbarth pleidleisio a man pleidleisio.
Os hoffech wneud unrhyw awgrymiadau ar gyfer newidiadau i ddosbarthiadau pleidleisio, dylech ystyried y canlynol:
- Ydi’r eiddo yn ddigon mawr ar gyfer nifer yr etholwyr a ddyrannwyd?
- Ydi’r eiddo mewn lleoliad mor ganolog ag sy’n bosibl ar gyfer y dosbarth etholiadol mae’n ei wasanaethu?
- A oes modd gwarantu y bydd y man pleidleisio ar gael i’w ddefnyddio yn y tymor hir?
- A fydd y lleoliad yn hygyrch i bobl ag anableddau, lle bo’n ymarferol?
Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?
Bydd y safbwyntiau a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad hwn yn cael eu hadrodd i gyfarfod o’r Cyngor ym mis Ionawr 2025 i lywio penderfyniadau’r Cyngor ar leoliad dosbarthiadau a mannau pleidleisio Sir Ddinbych.
Sut ellwch chi gymryd rhan?
Gall unrhyw unigolyn neu sefydliad sydd am rannu sylwadau am y dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio presennol anfon eu hymateb at Swyddfa’r Gwasanaethau Etholiadol.
Lle bynnag bo’n bosibl, dylai sylwadau gynnwys awgrymiadau am eiddo amgen i’w defnyddio at ddibenion pleidleisio, o fewn yr un dosbarth etholiadol. Rhowch y cyfeiriad a’ch rhesymau dros eich awgrymiadau.
Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?
Yn ystod yr adolygiad, bydd Swyddog Canlyniadau Gweithredol yn cyhoeddi ei argymhellion. Bydd y Cyngor yna’n ystyried argymhellion y Swyddogion Canlyniadau Gweithredol ynghyd ag unrhyw sylwadau eraill a wnaed.
Adborth
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau