Cais i ddod yn safle cymeradwy ar gyfer priodasau: Ystafell Seremoni Menlli, Rhuthun
(wedi'i cwblhau)
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nawr ar gau
Cyngor Sir Ddinbych
Deddf Priodasau 1949
Deddf Partneriaeth Sifil 2004
Rhoddir rhybudd yn unol â'r uchod fod cais wedi’i gyflwyno gan CYNGOR SIR DDINBYCH ar gyfer yr eiddo a adwaenir fel YSTAFELL SEREMONI MENLLI, RHUTHUN, am ganiatâd i weinyddu priodasau a chofrestru phartneriaethau sifil yn yr eiddo.
Bydd y cais a'r cynllun ynghlwm ar gael i'w harchwilio am 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwn yn swyddfa'r Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN.
Gall unrhyw unigolyn ysgrifennu at y cyfeiriad uchod yn ystod y cyfnod hwn i wrthwynebu caniatáu'r cais, gyda'r rhesymau dros hynny.
Catrin Roberts
Y Swyddog Priodol
Gall unrhyw unigolyn ysgrifennu gan cwblhau'r ymholiad isod neu at y cyfeiriad uchod yn ystod y cyfnod hwn i Wrthwynebu caniatáu'r cais, gyda'r rhesymau dros hynny.
- Dyddiad cychwyn:3 Chwefror 2025
- Dyddiad Gorffen:24 Chwefror 2025
Adborth
Nid ydym wedi dderbyn unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.
Bydd yr eiddo hwn bellach wedi'i drwyddedu i fyny at 24 Chwefror 2026