Parc Poced: Porth Canol Tref y Rhyl

Yr ydym yn ymgynghori ar y dewis a ffefrir gennym ar gyfer dyluniad 'Parc Poced' yng Nghanol Tref y Rhyl.

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth y DU dan rownd 3 cyllid y Gronfa Ffyniant Bro. Bydd y prosiect yn rhan o Falchder Bro ac Amgylchedd Naturiol Sir Ddinbych.

Beth ydym yn ei wneud?

Hoffem adeiladu ‘parc poced’ yng Nghanol Tref y Rhyl.

Mae ‘parciau poced’ yn ardaloedd bach gyda man gwyrdd (coed, planhigion, ac ati) a lleoedd i eistedd, sy’n groesawgar a hygyrch i bawb.

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Mae’r parc poced arfaethedig ar ran ddeheuol y Stryd Fawr, ar y gornel â Ffordd Brighton. Wedi ei leoli gerllaw Pont Vale Road (a elwir weithiau yn Bont Morrisons), mae mewn ardal sy’n cael ei hystyried yn borth i Ganol Tref y Rhyl.

Prynodd y Cyngor yr adeiladau a dymchwel rhan ohonynt yn 2022 gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru dan ei Rhaglen Trawsnewid Trefi. Yr oedd gofyniad cyfreithiol arnom i ddymchwel 123-125 Stryd Fawr am nad oeddynt yn ddiogel yn saernïol ac mewn perygl o chwalu.

Y cynllun yw dymchwel gweddill yr adeiladau ar y safle a chael parc poced yn eu lle.

Yr ydym wedi penderfynu peidio â chael adeiladau newydd yn lle’r adeiladau sydd wedi eu dymchwel am y rhesymau canlynol:

  • Nid yw’n hyfyw yn economaidd i adnewyddu’r adeiladau
  • Mae dymchwel yn rhoi’r cyfle i greu porth mwy deniadol i ganol y dref
  • Mewn gwaith blaenorol a wnaethom yng Nghanol Tref y Rhyl, dywedodd pobl wrthym nad oedd digon o leoedd braf i eistedd
  • Yng nghanol tref y Rhyl mae’r lefel isaf o ‘orchudd canopi’ (h.y. amgylchedd naturiol fel coed a phlanhigion) o blith unrhyw dref bron yng Nghymru. Bydd creu man newydd gyda phlanhigion a choed o gymorth i fynd i’r afael â hyn
  • Nid oes galw am safleoedd preswyl neu fanwerthu newydd yn y lleoliad hwn

Gobeithiwn y gallwn gynorthwyo i ddod â mannau croesawgar, naturiol, yn ôl i Ganol Tref y Rhyl drwy greu parc poced ar safle’r adeiladau sydd wedi eu dymchwel.

Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU dan rownd 3 cyllid y Gronfa Ffyniant Bro. Bydd y prosiect yn rhan o Falchder Bro ac Amgylchedd Naturiol Sir Ddinbych

Canfyddwch fwy am Brosiectau Balchder Bro ac Amgylchedd Naturiol Sir Ddinbych

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Hoffem glywed eich barn.

Cymerwch olwg ar argraff arlunydd o’r parc poced isod a gadewch i ni wybod os oes gennych unrhyw adborth neu gwestiynau.

Parc poced Porth y Rhyl: golygfa ogledd-ddwyrain

Mae’r ddelwedd yn dangos golygfa o dop bws yn edrych i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar y parc cyfan.

  • Ar flaen y safle mae gwelyau blodau uchel gyda phlanhigion cynhenid wedi eu plannu yno, wedi eu cysgodi gan goed bedw arian, a fydd yn gwella bioamrywiaeth leol.
  • Mae mynedfeydd i’r parc o’r Stryd Fawr a Ffordd Brighton, ac mae mynediad gwastad i’r safle drwyddo draw. Rheolir mynediad i’r safle trwy gyfres o folardiau, a fydd yn sicrhau bod y parc yn aros yn addas i gerddwyr. Mae standiau beiciau i’r cyhoedd eu defnyddio ger mynedfa’r parc o’r Stryd Fawr, a fydd yn annog a hybu teithio llesol.
  • Yng nghefn y safle mae wal gwaith maen 3m o uchder gyda bargod copin llechen, a fydd yn cael ei gorchuddio â llystyfiant dringol fel eiddew a gwyddfid. O flaen y wal 3m hon mae gwely plannu yn cynnwys coed bedw arian a blodau gwylltion, wedi ei fframio â wal gynnal frics (600mm o uchder) sydd â bargod copin llechen.
  • Mae gan y dyluniad arfaethedig ardal gron yn y canol i bobl ymgynnull, gyda dwy fainc grom yng nghanol yr ardal a chyfres o feinciau ar yr ymylon i ganiatáu i bobl gael saib (eistedd a threulio amser) rhwng y ddau wely o blanhigion.
  • Daeth arwyddion hanesyddol ar dalcen adeilad i’r amlwg yn ystod y broses o ddymchwel 123-125 Stryd Fawr. Gobeithir y gellir ailbaentio’r arwyddion hyn a’u hadfer, yn amodol ar ymgynghoriad â pherchnogion yr eiddo a’u cytundeb.

Parc poced Porth y Rhyl: golygfa ogledd-ddwyrain (nos)

Mae’r ddelwedd yn dangos golygfa o dop bws yn edrych i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar y parc cyfan, fel y byddai’n edrych yn y nos

  • Mae yna golofnau goleuadau stryd uwch ben i ddarparu gwelededd a diogelwch.
  • Bydd goleuadau sy’n goleuo am i lawr ar y wal gefn a goleuadau ar lefel y ddaear yn y gwelyau planhigion yn gwneud i’r parc edrych yn fwy deniadol yn ystod oriau tywyllach.

Parc poced Porth y Rhyl: golygfa ogledd-orllewin

Mae’r ddelwedd yn dangos golygfa i gyfeiriad y gogledd-orllewin ar lefel y ddaear, fel pe baech yn sefyll ar Ffordd Brighton, y tu allan i adeilad Apollo Bingo yn fras.

Parc poced Porth y Rhyl: golygfa dde-ddwyrain

Mae’r ddelwedd yn dangos golygfa i gyfeiriad y de-ddwyrain ar lefel y ddaear, fel pe baech yn sefyll ar y Stryd Fawr, y tu allan i Tim’s Coffee Lounge neu asiant eiddo Reeds Rains yn fras.

Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?

Gwyddom fod rhan fwyaf y traffig i’r Rhyl ac oddi yno, ers datblygu’r A55, yn tueddu i deithio i gyfeiriad y gogledd neu’r de ar hyd yr A525, yn hytrach nag i gyfeiriad y dwyrain neu’r gorllewin ar hyd ffordd yr arfordir (A548).

Golyga hyn mai’r olygfa o Stryd Fawr y Rhyl wrth ddod dros bont reilffordd Vale Road yw’r argraff gyntaf mae pobl yn ei chael o ganol y dref.

Gobeithiwn, wrth ddatblygu ardal groesawgar yn yr awyr agored yn ardal y Porth hwn, y bydd o gymorth i roi hwb i apêl canol y dref a’i wneud yn atyniadol.

Pe baem yn dod i wybod am unrhyw bryderon mawr cyn i ni wneud cais am ganiatâd cynllunio i greu’r parc poced, gallwn ystyried a oes angen gwneud unrhyw addasiadau i’n cais cynllunio arfaethedig.

Sut ellwch chi gymryd rhan?

Cymerwch ran yn ein harolwg

Gellir cwblhau ein harolwg ar-lein.

Ffurflen ar-lein (gwefan allanol)

Gellir cael copïau papur o’r arolwg a’u dychwelyd yma:

Llyfrgell a Siop Un Alwad y Rhyl,
Stryd yr Eglwys,
Y Rhyl
LL18 3AA

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: : 6 Ebrill 2025.

Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?

 

This information will be available soon.


 

Adborth

This information will be available soon.