Gorchymyn Rheoleiddio Traffig:

Terfynau cyflymder arfaethedig o 20mya y tu allan i ysgolion

Dirymu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Parth 20mya

Rydym yn cynnig i ddirymu (tynnu neu ddileu) nifer o Orchmynion Rheoleiddio Traffig a oedd wedi creu parthau 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn Sir Ddinbych.


Rydym yn cynnig dirymu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig a oedd wedi creu terfyn cyflymder 20mya ar y ddwy ffordd gyfyngedig ganlynol:

  • Ffordd Dinbych, Rhuthun
  • Ffordd Gwaenynog, Dinbych

Pam ydym ni’n gwneud hyn?

Roedd y parthau 20mya a’r terfynau cyflymder yn ddiangen erbyn hyn, pan newidiodd Llywodraeth Cymru’r terfyn cyflymder rhagnodedig ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya ar 17 Medi, 2023.


Fel rhan o’r newid hwn i derfynau cyflymder cenedlaethol ar ffyrdd cyfyngedig, mae gofyniad cyfreithiol (dyletswydd gyfreithiol) arnom i ddirymu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig sydd nawr yn ddiangen.


Mae dirymu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig diangen yn golygu y bydd hyd bob ffordd yn dychwelyd i statws ffordd gyfyngedig (20mya).


Cyflwyno terfyn cyflymder 20mya ar ffyrdd anghyfyngedig tu allan i ysgolion


Rydym yn cynnig cyflwyno terfynau cyflymder 20mya drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig ar ffyrdd anghyfyngedig tu allan i’r ysgolion canlynol:

  • Ysgol y Santes Ffraid yn Ninbych
  • Ysgol Pentre Celyn
  • Ysgol Bro Famau yn Llanferres
  • Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd.

Pam ydym ni’n gwneud hyn?

Mae’r ysgolion hyn wedi’u lleoli ar ffyrdd gyda therfyn cyflymder cenedlaethol, gyda therfyn cyflymder 60mya neu â Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar waith i newid o’r terfyn cyflymder cenedlaethol i 30mya.

O ganlyniad, nid oedd yr ysgolion hyn wedi’u cynnwys yn y newidiadau i’r terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig a gyflwynodd Llywodraeth Cymru yn 2023.


Bydd cyflwyno terfynau cyflymder 20mya tu allan i’r ysgolion hyn yn sicrhau bod y terfynau cyflymder yn cyd-fynd â therfynau cyflymder tu allan i bob ysgol arall yn Sir Ddinbych.


Diweddariad ar adolygiad cyffredinol o ffyrdd cyfyngedig (20mya) yn Sir Ddinbych

Mae’r Cyngor yn y broses o gynnal adolygiad cyffredinol i’r terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig yn Sir Ddinbych, yn unol â chanllawiau diweddar Llywodraeth Cymru.


Cyflwynwyd dros 200 o ffyrdd i’r Cyngor i’w hadolygu fel rhan o’r broses hon.


Unwaith mae’r broses adolygu wedi dod i ben, bydd y Cyngor yn cymryd un o’r camau canlynol:

  • Nid yw’r ffyrdd a argymhellir yn bodloni’r trothwy i’w hystyried ar gyfer newid i 30mya. Bydd y ffordd yn parhau i fod yn 20mya
  • • Efallai bydd y ffordd a argymhellir yn cael ei hystyried am adolygiad o’r terfyn cyflymder. Bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriadau o’r ffyrdd hyn.

Nodwch: nid oes gan yr ymgynghoriad ar dynnu’r parthau 20mya a chyflwyniad y terfynau cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig tu allan i ysgolion unrhyw effaith ar y broses adolygu gyffredinol ar gyfer terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig yn Sir Ddinbych.

Peidiwch â chyflwyno argymhellion neu gwynion am yr adolygiad 20mya cyffredinol i’r ymgynghoriad hwn. Dim ond arsylwadau neu wrthwynebiadau dilys i’r cynigion ar gyfer y ffyrdd sydd wedi’u nodi’n benodol yn y broses ymgynghori hon y byddwn yn gallu eu hystyried.

Beth yw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO)?

Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn ddogfen gyfreithiol sy’n cyfyngu neu’n gwahardd y defnydd o’r rhwydwaith priffyrdd, yn unol â Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (gwefan allanol).

Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ein helpu i reoli’r rhwydwaith priffyrdd i holl ddefnyddwyr y ffyrdd, yn cynnwys cerddwyr a’u nod yw gwella diogelwch ffyrdd a mynediad at gyfleusterau yn yr ardaloedd lle cânt eu cynnig.

Gellir ond cynnig Gorchymyn Rheoleiddio Traffig am y rhesymau a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, a gellir ond cynnig cynllun os yw’r rheoliadau’n caniatáu ar gyfer gosod llinellau ar y ffordd neu’r palmant neu arwyddion priffyrdd priodol ar safle’r cynllun.

Mae enghreifftiau o gynlluniau sy’n ymofyn Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cynnwys:

  • Gwaharddiad Aros
  • Newidiadau i derfynau cyflymder
  • Cyfyngiadau parcio ar y stryd
  • Cyfyngiadau pwysau / lled neu gyfyngiadau eraill ar gerbydau
  • Strydoedd unffordd

Gorfodi

Os bydd y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn mynd yn ei flaen, gall unrhyw ddefnyddiwr ffordd sy'n mynd dros y terfyn cyflymder yn gael eu cosbi neu eu erlyn.

Rhannwch eich barn â ni

Cyn gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ymgynghori â’r cyhoedd am gyfnod o 21 diwrnod. Rydym yn rhoi hysbysiadau cyhoeddus yn y wasg leol ac yn gosod hysbysiadau yn yr ardal leol lle cynigir gweithredu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Rydym hefyd wedi creu’r dudalen hon ar ein gwefan.

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu wrthwynebiad i’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig, byddem yn ddiolchgar pe baech cystal ag anfon eich adborth atom drwy:

Lenwi'r ffurflen adborth ar-lein (gwefan allanol)

Ysgrifennu at:

Catrin Roberts,
Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl
Cyngor Sir Ddinbych,
Ffordd Wynnstay
Rhuthun,
LL15 1YN

Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw: 5 Mawrth 2025

Dylech gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad a dylid nodi y gall y Cyngor roi ystyriaeth i'r holl sylwadau sy'n cael eu derbyn yng ngŵydd y cyhoedd a gallai sylwedd unrhyw sylwadau ynghyd ag enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y sylwadau hynny fod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.