Cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Plas Brondyffryn (Dinbych)
Mae Ysgol Plas Brondyffryn yn ysgol arbennig gyd-addysgol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol yn nhref Dinbych ar gyfer disgyblion o 3 oed i 19 oed gyda Chyflwr Sbectrwm Awtistig (ASC) ac anawsterau dysgu cysylltiedig.
Y capasiti arferol yn yr ysgol yw 116, ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 136 o ddisgyblion ar y gofrestr (niferoedd Medi 2021), mae nifer o ddisgyblion cymwys ar y rhestr aros i fynychu Ysgol Plas Brondyffryn, yn ogystal â nifer o ddisgyblion yn aros am asesiad i weld a ydynt yn gymwys i ymuno â'r rhestr aros. Credwn fod y galw am leoedd mewn ysgolion arbennig fel Ysgol Plas Brondyffryn yn debygol o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf.
Yn gryno, rydym yn cynnig cyfuno Ysgol Plas Brondyffryn ar un safle newydd, a chynyddu capasiti’r ysgol i ddal hyd at 220 o ddisgyblion.
Mae Ysgol Plas Brondyffryn ar hyn o bryd wedi ei gosod dros 4 safle fel a ganlyn:
- Mae disgyblion 3-11 oed yn mynychu'r Ysgol Gynradd, sydd wedi'i lleoli yn Nhy'n y Fron
- Mae disgyblion 11-19 oed yn mynychu'r Ysgol Uwchradd, sydd wedi ei leoli yn Stryd y Parc
- Disgyblion 11-19 oed ag anghenion mwy cymhleth yn mynychu safle Ty'r Ysgol
- Mae safle preswyl yn Gerddi Glaslyn sy'n cynnig cyfleusterau preswyl yn ystod yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener). Nid yw'r safle hwn yn cael ei effeithio gan y cynigion presennol.
Yn amodol ar gyllid a chymeradwyaeth cynllunio, rydym yn bwriadu adeiladu safle newydd ar gaeau chwarae Ysgol Uwchradd Dinbych, a fydd yn disodli'r 3 adeilad ysgol sydd wedi'u lleoli ar hyn o bryd yn Ty'n y Fron, Stryd y Parc a Thŷ'r Ysgol.
Mae'r adroddiad ymgynghori ffurfiol ynghylch y cynnig ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych i gynyddu capasiti Ysgol Plas Brondyffryn o 116 i 220 bellach ar gael.
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad diweddar ar y cynnig uchod yn ogystal ag ymatebion Cyngor Sir Ddinbych.
Gallwch weld dogfennau blaenorol ar gyfer yr ymgynghoriad ffurfiol o 17 Mai - 27 Mehefin 2022 isod.