Genedigaethau, priodasau a marwolaethau - Copi o dystysgrif
Os hoffech archebu copi o dystysgrif geni, marwolaeth neu briodas, yna gallwch fynd i'r adran swyddfeydd cofrestru. Bydd angen i chi lenwi un o'r ffurflenni cais canlynol a'i dychwelyd gyda thaliad;
Pryd fyddaf yn derbyn y dystysgrif?
Rydym ni’n gwneud ein gorau i gynhyrchu’r dystysgrif cyn gynted â phosib, ond nid oes modd i ni bob tro ddarparu’r dystysgrif ar ddiwrnod eich ymweliad. Os oes angen tystysgrif arnoch chi ar frys, efallai yr hoffech chi ddefnyddio ein gwasanaeth blaenoriaethu, gwelwch y manylion isod.
Cost a ffyrdd o dalu
Mae copi o dystysgrif yn costio £12.50. Gallwch dalu:
- yn bersonol gydag arian neu gerdyn debyd/credyd
- dros y ffôn gyda cherdyn debyd/credyd
- neu drwy archeb bost
Gwasanaeth blaenoriaethu
Gallwch ddewis ein gwasanaeth blaenoriaethu am £38.50 ychwanegol. Gyda’r gwasanaeth yma bydd eich tystysgrif yn cael ei chynhyrchu ar yr un diwrnod y bu i chi wneud y cais (cyn belled â’n bod yn derbyn eich cais cyn 11am).
Swyddfa Gofrestru Cyffredinol
Gallwch archebu copi o dystysgrif geni, priodas neu farwolaeth o’r Swyddfa Gofrestru Cyffredinol.
Gwneud cais ar-lein i'r Swyddfa Gofrestru Cyffredinol (gwefan allanol)
Newid tystysgrif
Dim ond dan rhai amgylchiadau yn unig y gellir addasu tystysgrif geni neu farwolaeth wreiddiol, cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.