Fe gyflwynwyd seremonïau dinasyddiaeth i ddechrau yn Ionawr 2004 o ganlyniad i Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2002. Gyda’r Ddeddf yma fe ddaeth yn ofyniad cyfreithiol i bob ymgeisydd am ddinasyddiaeth Brydeinig dros 18 oed, gymryd rhan mewn seremoni ddinasyddiaeth, lle maen nhw’n tyngu neu’n cadarnhau llw o deyrngarwch i’r Frenhines ac yn gwneud llw o ymrwymiad i'r Deyrnas Unedig.
Rydyn ni’n gyfrifol am drefnu seremonïau ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus am ddinasyddiaeth sy’n byw neu’n sy’n gofyn am gael cynnal eu seremoni yn Sir Ddinbych
Beth fydd yn digwydd yn y seremoni?
Fe gynhelir y seremoni gan Gofrestrydd Arolygol neu Ddirprwy Gofrestrydd Arolygol. Bydd cadeirydd neu is-gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych yn bresennol hefyd i groesawu’r dinesydd newydd, ac yn dilyn y seremoni, yn cyflwyno anrheg goffaol. Bydd Arglwydd Raglen Clwyd, neu ei Ddirprwy, yno hefyd i groesawu’r dinasyddion newydd i’r Deyrnas Unedig, ar ran y Frenhines, ac i gyflwyno’r dystysgrif ddinasyddiaeth, sy’n rhoi hawliau llawn fel Dinesydd Prydeinig. Bydd Uchel Siryf Clwyd yn bresennol hefyd.
Pa bryd y gellir eu cynnal?
Fe gynhelir seremonïau dinasyddiaeth fel arfer ar yr ail ddydd Iau ym mhob mis yn Neuadd y Dref, Rhuthun. Fodd Bynnag, mae’n bosib cynnal seremoni breifat, unigol, un ai yn Neuadd y Dref neu yn un o’r lleoliadau o fewn Sir Ddinbych sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer Seremonïau Sifil.
Seremonïau dinasyddiaeth breifat yn costio £175
Gallwch gysylltu â ni i gael gwybodaeth bellach.