Gofal plant a rhianta gweithgareddau a digwyddiadau
Byddwn yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd ledled Sir Ddinbych, gydol y flwyddyn.
Amser Rhigwm Dechrau Da
Mae sesiynau Amser Rhigwm Dechrau Da yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd Sir Ddinbych. Nod y sesiynau hyn yw gwneud llyfrau’n hwyl i fabis a phlant, drwy ddefnyddio caneuon, rhigymau a symudiadau i ddatblygu sgiliau iaith a chymdeithasol. Bydd rhieni hefyd yn elwa ar y cyfle i wneud ffrindiau newydd drwy ddod i'r sesiynau cymdeithasol, llawn croeso hyn. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim ond mae angen archebu lle o flaen llaw ar wefan Dechrau Da Sir Ddinbych (gwefan allanol).
Dilynwch ein tudalen Dechrau Da Sir Ddinbych ar Facebook i gael yr holl newyddion diweddaraf.
Caiff Dechrau Da Sir Ddinbych ei ariannu’n rhannol gan y rhaglen Dechrau'n Deg.
Cymraeg i Blant
Mae Cymraeg i Blant yn cynllun gan Llywodraeth Cymru er mwyn esbonio i rhieni y manteision i'w plant o gallu siarad Cymraeg ac i rhoi cymorth ar gweithgareddau gall rheini gwneud i hybu'r iaith.
Darganfyddwch mwy amdan Cymraeg i Blant (gwefan allanol)
Diwrnod Chwarae Rhyngwladol
Mae Diwrnod Chwarae yw'r diwrnod rhyngwladol ar gyfer chwarae, yn traddodol mae'n cael ei gynnal ar y Dydd Mercher cyntaf o mis Awst. Mae'r diwrnod yn ymgyrch sydd yn codi sylw ar y pwysigrwydd o chwarae o fewn bywydau plant.
Mwy am Diwrnod Chwarae (gwefan allanol)