Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

Teuluoedd yn Gyntaf: Rhaglen Chill Out

Mae'r Rhaglen Chill Out yn gwrs pum wythnos i helpu gyda straen a straen bywyd bob dydd.

Merched yn eistedd gyda thraed i fyny yn cael diod boeth.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau? 

Mae'r Rhaglen Chill Out ar gyfer pobl dros 18 oed sy'n derbyn gwasanaethau drwy'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn unig.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?

Cynhelir y sesiynau rhwng 9:30am ac 11am yng Nghanolfan Westbourne, y Rhyl:

  • Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2024
  • Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024
  • Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024
  • Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024
  • Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024

Gwybodaeth am y lleoliad

Dyma gyfeiriad Canolfan Westbourne:

Wood Road
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1DZ

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan Westbourne.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae yna gyfleusterau toiledau i bobl anabl, ac mae’r ystafell lle bydd y cwrs ar y llawr gwaelod.

Sut i gymryd rhan

Mae’n rhaid i chi fod yn derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf, ac mae’n rhaid archebu lle i fod yn bresennol yn y grŵp.

Rydym ni’n argymell eich bod chi’n mynd i bob un o’r sesiynau i fanteisio i’r eithaf ar y grŵp.

Sut i gadw lle

Os ydych chi’n derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf ac yn awyddus i archebu lle, siaradwch â’ch Gweithiwr Teuluoedd yn Gyntaf.