Time Out for Parents - Teenage Years
Nod y cwrs 'Seibiant i Rieni - Blynyddoedd yr Arddegau' yw cefnogi teuluoedd gyda phobl ifanc yn eu harddegau i helpu i gael gwell dealltwriaeth o bobl ifanc a byw bywyd tawelach a hapusach.
Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Dim ond ar gyfer rhieni/gofalwyr yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf neu'r rhaglen Dechrau'n Deg sydd â phlant rhwng 13 a 19 oed y mae’r cwrs hwn.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Bydd y cwrs 'Seibiant i Rieni - Blynyddoedd yr Arddegau' nesaf yn dechrau ym mis Tachwedd 2024. Cynhelir sesiynau ar gyfer y cwrs hwn yn Ystafell Elm yng Nghanolfan y Dderwen rhwng 9:30am a 11:30am ar:
- Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2024
- Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024
- Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024
- Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024
- Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024
- Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024
- Dydd Mawrth 17 Rhagfyr 2024
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Sut i gymryd rhan
Rhaid i chi archebu lle er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn.
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.
I gadw lle ar y cwrs hwn, ffonio 01824 708089:
- Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
- Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm
Mwy o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn yn ei gyflwyno gyda chymorth Gofal i'r Teulu.
Dysgwch fwy am y cwrs Gofal i’r Teulu ‘Seibiant i Rieni: Blynyddoedd yr Arddegau' (gwefan allanol)