Seibiant i Rieni - Plant ag Anghenion Ychwanegol
Nod y cwrs 'Seibiant i Rieni - Plant ag Anghenion Ychwanegol' yw cefnogi teuluoedd sydd â phlant ag anghenion ychwanegol, gyda diagnosis neu heb ddiagnosis, neu sy’n arddangos arwyddion o fân ymddygiad heriol.
Ar gyfer pwy mae’r sesiynau
Mae’r cwrs hwn ar gyfer rhieni/gofalwyr yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf neu’r rhaglen Dechrau’n Deg yn unig, sydd â phlant hyd at 19 oed ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Nid oes rhaid i’r ADY gael diagnosis.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Mae’r sesiynau ‘Seibiant i Rieni - Plant ag Anghenion Ychwanegol’ yn cael eu cynnal yn Ystafell Elm yng Nghanolfan y Dderwen, 9:30am tan 11:30 am ar:
- Dydd Iau 12 Medi 2024
- Dydd Iau 19 Medi 2024
- Dydd Iau 26 Medi 2024
- Dydd Iau 3 Hydref 2024
- Dydd Iau 10 Hydref 2024
- Dydd Iau 17 Hydref 2024
- Dydd Iau 24 Hydref 2024
- Dydd Iau 7 Tachwedd 2024
- Dydd Iau 14 Tachwedd 2024
Mae cwrs 4 wythnos ychwanegol ar gyfer rhieni sydd â phlant ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), a gynhelir yn Ystafell Elm yng Nghanolfan y Dderwen, 9:30am tan 11am ar:
- Dydd Iau 21 Tachwedd 2024
- Dydd Iau 28 Tachwedd 2024
- Dydd Iau 5 Rhagfyr 2024
- Dydd Iau 12 Rhagfyr 2024
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Sut i gymryd rhan
Rhaid i chi archebu lle er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn.
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.
I gadw lle ar y cwrs hwn, ffonio 01824 708089:
- Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
- Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm
Mwy o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn yn ei gyflwyno gyda chymorth Gofal i'r Teulu.
Dysgwch fwy am y cwrs Gofal i’r Teulu ‘Seibiant i Rieni: Plant ag Anghenion Ychwanegol’ (gwefan allanol).