Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar
Mae'r cwrs 'Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar' yn dod â rhieni a gofalwyr at ei gilydd i edrych ar feithrin perthnasoedd iach gyda'u babanod, plant bach a phlant cyn oedran ysgol a datblygu dysgu drwy hwyl a chwarae.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau
Dim ond ar gyfer rhieni/gofalwyr yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf neu'r rhaglen Dechrau'n Deg sydd â babanod, plant bach a/neu blant cyn oedran ysgol y mae’r cwrs hwn.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Bydd y cwrs 'Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar' nesaf yn dechrau ym mis Mehefin 2025. Cynhelir sesiynau ar gyfer y cwrs hwn yng Nghanolfan y Dderwen rhwng 9:30am a 11:30am ar:
- Dydd Iau 12 Mehefin 2025
- Dydd Iau 19 Mehefin 2025
- Dydd Iau 26 Mehefin 2025
- Dydd Iau 3 Gorffennaf 2025
- Dydd Iau 10 Gorffennaf 2025
- Dydd Iau 17 Gorffennaf 2025
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Sut i gymryd rhan
Rhaid i chi archebu lle er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn.
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.
I gadw lle ar y cwrs hwn, ffonio 01824 708089:
- Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
- Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm
Mwy o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn yn ei gyflwyno gyda chymorth Gofal i'r Teulu.
Dysgwch fwy am y cwrs Gofal i’r Teulu 'Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar' (gwefan allanol)
