Dechrau'n Deg: Sesiynau Cefnogi i Ddysgu Sut i Ddefnyddio’r Toiled

Mae Dechrau’n Deg yn cynnal sesiynau cefnogi i rieni a gofalwyr i’w helpu i ddysgu eu plant sut i ddefnyddio’r toiled. Mae’r sesiynau yn darparu gwybodaeth yn ymwneud â:

  • dulliau o ddysgu sut i ddefnyddio’r toiled yn barod ar gyfer dechrau’r ysgol
  • adnoddau ymarferol
  • problemau a heriau cyffredin wrth ddysgu sut i ddefnyddio’r toiled
  • cymorth ar-lein a chymorth ychwanegol

Baby having it's nappy changed

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau? 

Mae’r Sesiynau Cefnogi i Ddysgu Sut i Ddefnyddio’r Toiled ar gael ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau’n Deg a sydd â phlant rhwng 18 mis a 3 oed yn unig.

Gwiriwch a ydych yn gymwys am y rhaglen Dechrau'n Deg.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Select a location to find out when and where sessions take place:

Sut i gymryd rhan

Mae’n rhaid i chi fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg ac archebu lle i fynychu’r grŵp.

I gadw lle

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg ac yn awyddus i archebu lle, ffoniwch 03000 856 595 neu anfonwch e-bost atom.