Clwb ieuenctid Corwen

Mynd yn syth i:

Oriau agor

Dydd Mercher: 6pm i 8pm i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 7 ac uwch.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Darganfod beth sy’n digwydd yng Nghorwen.

Chwefror 2025

Chwefror 2025

5 Chwefror: Pizza a chystadleuaeth pŵl

Pobl ifanc i gystadlu mewn gwahanol gystadlaethau pŵl, yn unigol ac mewn timau – gan gynnwys ‘killer pool’, yr enillydd i aros a sgiliau yn erbyn y cloc. Mwynhewch ddarn o bizza hefyd!


12 Chwefror: Cyfle i ddysgu sut i fod yn artist balŵns

Bydd pobl ifanc yn dysgu'r sgiliau i wneud bwa balŵns gyda'n hartist balŵns ein hunain.


19 Chwefror: Cerrig cadarnhaol

Caiff pobl ifanc beintio neges ar gerrig i wneud i rywun wenu yn ein cymuned. Cystadleuaeth sgiliau pŵl gyda gemau un-i-un ac fel tîm.

Mawrth 2025

Mawrth 2025

5 Mawrth: Croeso’n ôl / paned a sgwrs

Cyfle i groesawu aelodau newydd ac i’r bobl ifanc gael sgwrs am faterion sy’n berthnasol iddyn nhw dros baned o de.


12 Mawrth: Gemau bwrdd a danteithion Rice Krispies

Noson gemau bwrdd a gwneud cacennau Rice Krispies.


19 Mawrth: Gweithdy effaith gymunedol

Cyfle i bobl ifanc drafod ffyrdd y gallant gael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau lleol.


26 Mawrth: Gweithdy digidol

Gall pobl ifanc archwilio byd rhyngweithiol gwaith ieuenctid digidol drwy Realiti Rhithwir, llechi a gweithdai animeiddio Lego.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen berthnasol ar gyfer eich oedran. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda chlwb ieuenctid Corwen (13 oed a hŷn)

Cofrestru gyda chlwb ieuenctid Corwen (dan 13 oed)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Xbox
  • Deunyddiau celf a chrefft
  • Gemau bwrdd

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Charlotte Morris ydi Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ardal Dyffryn Dyfrdwy. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo hi wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau diogelwch Covid


Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Parc Coffa’r Rhyfel Corwen
Lôn Las
Corwen
LL21 0DN

Cysylltwch â chanolfan ieuenctid Corwen arlein

Ffôn: 01490 413429

Rhif ffôn symudol Charlotte Morris: 07880 300420

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi:

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.