Ionawr 2025
8 Ionawr: Dewch i gwrdd â’r tîm
Mae Tîm Ieuenctid Gwledig yn dod i Gorwen ac fe fyddant ar y strydoedd o amgylch y dref er mwyn cwrdd â phobl ifanc hyrwyddo’r clwb ieuenctid a’i leoliad newydd. Dewch i gwrdd â’r tîm.
15 Ionawr: Ein cartref newydd!
Croesawu aelodau newydd a tharo golwg ar ein cartref newydd. Dewch i gwrdd â’r tîm, helpu i siapio sesiynau’r dyfodol a gwneud crempogau.
22 Ionawr: Noson gwis
Fe fydd y bobl ifanc yn cael eu rhannu mewn i dimau i gymryd rhan mewn noson gwis ar sawl pwnc yn cynnwys cwestiynau gwir neu gau am y gweithwyr ieuenctid a’r ardal leol.
29 Ionawr: Sgwrs ymwybyddiaeth LHDTC+ gyda Young & Mindful
Fe fydd y tîm gwych yn Young & Mindful yn arwain trafodaeth ar ymwybyddiaeth LHDTC+ ac yn helpu i feithrin ein hymdeimlad o gynhwysiant.