Canolfan ieuenctid Prestatyn

Mynd yn syth i:

Prestatyn youth centre

Oriau agor

  • Dydd Mawrth 6pm i 8pm: sesiwn iau i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 6, 7 ac 8.
  • Dydd Mercher 6pm i 8pm: sesiwn hŷn i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 9 ac uwch.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Sesiwn iau

Ebrill 2025

Ebrill 2025

1 Ebrill: Paned a Sgwrs

Cyfle i bobl ifanc gael paned a bisgedi a thrafod gyda’r Tîm Gwaith Ieuenctid unrhyw bryderon neu syniadau sydd ganddynt yr hoffent ddod â nhw i’r clwb. Heddiw fe ganolbwyntir ar hyrwyddo iechyd meddwl a lles.


8 Ebrill: Diffodd technoleg!

Cyfle i bobl ifanc drafod manteision iechyd meddwl a lles o ganlyniad i beidio â defnyddio technoleg a sut i ganfod cydbwysedd newydd.


15 Ebrill: Gwyliau’r Pasg

Ar gau dros y Pasg - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


22 Ebrill: Gwyliau’r Pasg

Ar gau dros y Pasg - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


29 Ebrill: Cymryd gofal o’n hamgylchedd

Bydd pobl ifanc yn edrych ar yr hyn a olygir wrth ostwng, ailddefnyddio ac ailgylchu gyda thrafodaeth, cwis a chrefftau.

Mai 2025

Mai 2025

6 Mai: Paned a sgwrs

Cyfle i drafod pynciau’r wythnos a rhannu teimladau a syniadau gyda chyfoedion.


13 Mai: Beth mae teulu yn ei olygu i ni?

Sesiwn grefftau a thrafodaeth i edrych ar beth mae teulu yn ei olygu i ni a phwysigrwydd cyfeillgarwch a chefnogi eraill.


20 Mai: Diwrnod ‘achub ci’ cenedlaethol

Dysgu am fywyd ci achub a phwysigrwydd trin anifeiliaid gyda charedigrwydd gyda chrefftau a phobi danteithion cŵn ar gyfer canolfannau achub lleol.


27 Mai: Egwyl hanner tymor

Ni fydd sesiwn yr wythnos hon.

Mehefin 2025

Mehefin 2025

3 Mehefin: Mae iechyd meddwl o bwys

Cyfle i edrych ar iechyd meddwl a pham ei bod yn bwysig siarad.


10 Mehefin: Cymwynas annisgwyl

Cyfle i edrych ar beth mae’n ei olygu i fod yn garedig a pham ei fod yn bwysig.


17 Mehefin: Mis Pride

Bydd gennym sesiwn ymwybyddiaeth LHDTC+ a gweithgareddau celf a chrefft i ddathlu mis Pride.


24 Mehefin: Noson gwis

Cwis llawn hwyl gyda phopcorn a siocled poeth.

Sesiwn hŷn

Ebrill 2025

Ebrill 2025

2 Ebrill: Paned a Sgwrs

Cyfle i bobl ifanc gael paned a bisgedi a thrafod gyda’r Tîm Gwaith Ieuenctid unrhyw bryderon neu syniadau sydd ganddynt yr hoffent ddod â nhw i’r clwb. Heddiw fe ganolbwyntir ar hyrwyddo iechyd meddwl a lles.


9 Ebrill: Diffodd technoleg!

Cyfle i bobl ifanc drafod manteision iechyd meddwl a lles o ganlyniad i beidio â defnyddio technoleg a sut i ganfod cydbwysedd newydd.


16 Ebrill: Gwyliau’r Pasg

Ar gau dros y Pasg - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


23 Ebrill: Gwyliau’r Pasg

Ar gau dros y Pasg - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


30 Ebrill: Cymryd gofal o’n hamgylchedd

Bydd pobl ifanc yn edrych ar yr hyn a olygir wrth ostwng, ailddefnyddio ac ailgylchu gyda thrafodaeth, cwis a chrefftau.

Mai 2025

Mai 2025

7 Mai: Paned a sgwrs

Cyfle i drafod pynciau’r wythnos a rhannu teimladau a syniadau gyda chyfoedion.


14 Mai: Beth mae teulu yn ei olygu i ni?

Sesiwn grefftau a thrafodaeth i edrych ar beth mae teulu yn ei olygu i ni a phwysigrwydd cyfeillgarwch a chefnogi eraill.


21 Mai: Diwrnod ‘achub ci’ cenedlaethol

Dysgu am fywyd ci achub a phwysigrwydd trin anifeiliaid gyda charedigrwydd gyda chrefftau a phobi danteithion cŵn ar gyfer canolfannau achub lleol.


28 Mai: Egwyl hanner tymor

Ni fydd sesiwn yr wythnos hon.

Mehefin 2025

Mehefin 2025

4 Mehefin: Mae iechyd meddwl o bwys

Cyfle i edrych ar iechyd meddwl a pham ei bod yn bwysig siarad.


11 Mehefin: Cymwynas annisgwyl

Cyfle i edrych ar beth mae’n ei olygu i fod yn garedig a pham ei fod yn bwysig.


18 Mehefin: Mis Pride

Bydd gennym sesiwn ymwybyddiaeth LHDTC+ a gweithgareddau celf a chrefft i ddathlu mis Pride.


25 Mehefin: Noson gwis

Cwis llawn hwyl gyda phopcorn a siocled poeth.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen berthnasol ar gyfer eich oedran. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Prestatyn (13 oed a hŷn)

Cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Prestatyn (dan 13 oed)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Playstation
  • Cegin
  • Neuadd chwaraeon
  • Deunyddiau celf a chrefft
  • Gemau bwrdd

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Tudur Parry ydi Weithiwr Ieuenctid Cymunedol ar gyfer Prestatyn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo fo wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Canolfan Ieuenctid Prestatyn
Dawson Drive
Prestatyn
LL19 8SY

Cysylltwch â chanolfan ieuenctid Prestatyn arlein

Ffôn: 07795051832

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi:

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.