Canolfan ieuenctid Rhuthun

Mynd yn syth i:

Canolfan ieuenctid Rhuthun

Oriau agor

Dydd Iau 6pm i 8pm: i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 7 ac uwch.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Darganfod beth sy’n digwydd yn Rhuthun.

Chwefror 2025

Chwefror 2025

4 Chwefror: Paned a sgwrs

Fe fydd aelodau o dîm Archif y Cyngor yn ymweld â ni i ddysgu mwy am beth ydi’r Archif a beth y gall prosiectau yn y dyfodol ei olygu i bobl ifanc.


11 Chwefror: Crefftau Diwrnod Sant Ffolant

Gyda Diwrnod Sant Ffolant yn agosáu, fe fydd gennym ddetholiad o grefftau a deunyddiau i greu anrhegion i rywun arbennig yn eich bywyd.


18 Chwefror: Dweud eich dweud!

Mae sesiwn heno ar eich cyfer chi!! Rydym eisiau gwybod pa sesiynau a gweithgareddau yr hoffech chi i ni eu trefnu ar ôl gwyliau’r hanner tymor. Fe fydd gan y tîm gyllideb i chi, ac fe fyddant yn eich cefnogi i lunio rhaglen clwb ieuenctid.

Mawth 2025

Mawth 2025

4 Mawth: Dydd Mawrth Ynyd

Pam rydym ni’n dathlu Dydd Mawrth Ynyd a beth mae’n ei olygu? Pa gynhwysion mae pobl yn eu hoffi ar eu crempog?


11 Mawth: Paned a sgwrs - gweithdy gwrthfwlio

Sgwrsio am effaith bwlio dros baned, gan gynnwys beth allwn ni ei wneud fel cymuned a pha gymorth sydd ar gael.


18 Mawth: Noson o bampro

Noson o bampro gyda masgiau wyneb, colur a gosod y gwallt i fyny i hyrwyddo iechyd a lles.


25 Mawth: Sesiwn gelf a chrefft Sul y Mamau

Bydd pobl ifanc yn cael y cyfle i wneud cerdyn ar gyfer unigolyn arbennig yn eu bywyd. Byddwn hefyd yn trafod syniadau ar gyfer ein cyfres nesaf o weithgareddau.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen berthnasol ar gyfer eich oedran. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Rhuthun (13 oed a hŷn)

Cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Rhuthun (dan 13 oed)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Hoci aer
  • Bwrdd pêl-droed
  • Playstation
  • Cegin
  • Deunyddiau celf a chrefft
Delweddau

Delweddau

Gweithgareddau 1

Gweithgareddau 2

Gweithgareddau 3

Gweithgareddau 4

Gweithgareddau 5

Gweithgareddau 6

Gweithgareddau 7

Gweithgareddau 8

Gweithgareddau 9

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Andrew Williams ydi Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ardal Dinbych a Rhuthun. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo fo wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Canolfan Ieuenctid Rhuthun
Drill Hall
30 Borthyn
Rhuthun
LL15 1NT

Cysylltwch â chanolfan ieuenctid Rhuthun arlein

Ffôn: 01824 703820

Rhif ffôn symudol Andrew Williams: 07833 255607

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi: maes parcio Lôn Dogfael

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.