Ionawr 2025
7 Ionawr: Croeso’n ôl / paned a sgwrs
Croeso cynnes yn ôl ar egwyl y Nadolig. Fe fydd gennym ni dîm newydd yn ei le ar gyfer y sesiwn yma sydd wedi cynllunio gweithgareddau torri’r iâ i ddod o adnabod ein gilydd.
14 Ionawr: Y Cwis MAWR
Yn sesiwn heno, mae’r tîm wedi paratoi cwis MAWR - gan ddefnyddio grid llawr enfawr, bydd y bobl ifanc yn symud i fyny’r bwrdd gyda phob ateb cywir (tebyg i gêm nadroedd ac ysgolion) a bydd yna wobr i’r tîm buddugol.
21 Ionawr: Coginio - noson gyri
Fe fydd y bobl ifanc yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau coginio, gan baratoi cyri iach i bawb ei fwynhau yn y sesiwn.
28 Ionawr: Sgwrs ymwybyddiaeth LHDTC+ gyda Young & Mindful
Fe fydd y tîm gwych yn Young & Mindful yn arwain trafodaeth ar ymwybyddiaeth LHDTC+ ac yn helpu i feithrin ein hymdeimlad o gynhwysiant.