Gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych
Mae gennym gyfleoedd amrywiol i wirfoddoli ar draws ein prosiectau ledled Sir Ddinbych. Mae gwirfoddolwyr yn gallu cael mynediad i hyfforddiant a chymorth am ddim i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth o weithio gyda phobl ifanc.
Nid oes rhaid i wirfoddoli fod yn ymrwymiad mawr, ond mae cael gwirfoddolwyr i gefnogi ein sesiynau am gyn lleied â thair awr yr wythnos yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gallu darparu sesiynau gwaith ieuenctid ar draws y sir, y gall pobl ifanc eu mynychu a chymryd rhan ynddynt.
Mae lleoliadau gwirfoddoli yn aml yn arwain at waith cyflogedig neu'n helpu i gefnogi cyfranogwyr i gael mynediad i gyrsiau neu gyflogaeth mewn meysydd cysylltiedig.
Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych sy'n 18 oed a throsodd, a'r oll y gofynnwn amdano yw bod gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phobl ifanc.
Ynghylch gwirfoddoli
Mathau o weithgareddau y gall gwirfoddolwyr gymryd rhan ynddynt:
- helpu i gyflwyno sesiynau gwaith ieuenctid.
- arwain neu gefnogi cyflwyno chwaraeon, celf a chrefft a choginio fel rhan o'n gwaith prosiect.
- cefnogi cyflwyno Gwobr Dug Caeredin, gan helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau mordwyo ac i fynd allan i'r awyr agored.
- darparu rhaglenni gwyliau i bobl ifanc trwy helpu i drefnu a staffio teithiau, ymweliadau neu sesiynau, naill ai fel staff neu drwy yrru'r bws mini.
- cymryd rhan yn y rhaglen arweinwyr ifanc (dan 18 oed)
Ynghylch gwirfoddolwyr
Dyma wybodaeth gyffredinol am bwy all wirfoddoli a manteision dod yn wirfoddolwr:
- 18 oed â hŷn
- mwynhau bod o gwmpas pobl ifanc neu weithio gyda nhw
- yn amyneddgar ac yn ofalgar a chefnogol
- nid yw profiad yn hanfodol
- yn fodlon hyfforddi a dysgu sgiliau newydd.
- yn gallu gweithio gyda'r nos ac yn ystod gwyliau'r ysgol
- yn fodlon ymgymryd â gwiriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Pam gwirfoddoli?
- Helpu yn y gymuned
- Rhoi rhywbeth yn ôl
- Rhannu eich sgiliau
- Magu sgiliau newydd
I gael gwybodaeth am unrhyw un o'n rhaglenni, cysylltwch â'r Gwasanaeth Ieuenctid:
Cysylltwch â ni: gwirfoddoli
Neu ffoniwch 01824 712716 / 01745 360129.