Beth am Godi a Mynd Allan
Mae’r sesiynau Beth am Godi a Mynd Allan wedi’u dylunio ar gyfer pobl ifanc lle byddant yn chwarae gemau, gwneud ffrindiau newydd, cymdeithasu a threulio amser mewn amgylchedd diogel.
Mae’r sesiynau hyn yn cael eu harwain gan blant, felly maen nhw’n dewis beth maen nhw eisiau ei wneud, neu pa offer maen nhw’n ei ddefnyddio.
Mae gan y sesiynau hyn bolisi mynediad agored, sy’n golygu bod y bobl ifanc yn rhydd i adael y sesiwn ar unrhyw adeg.

Ar gyfer pwy mae'r sesiynau?
Mae’r sesiynau hyn ar gyfer pobl ifanc ym mlwyddyn 7 ac uwch.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Cynhelir y sesiynau Beth am Godi a Mynd Allan bob dydd Mawrth yn ystod tymor yr ysgol, rhwng 5pm a 6:30pm yn Ysgol Christchurch.
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad Ysgol Christchurch yw:
Ernest Street
Y Rhyl
LL18 2DS
Parcio
Ar hyn o bryd nid oes lle i barcio ger Ysgol Christchurch.
Sut i gymryd rhan
Bydd angen i rieni neu warcheidwaid pobl ifanc ym mlwyddyn 7 neu uwch gofrestru eu plentyn ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae.
Sesiynau Cwbl Gynhwysol
Mae ein holl sesiynau’n gwbl gynhwysol a gallwch roi gwybod inni am unrhyw anghenion wrth gofrestru’ch plentyn ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae.
Cofrestru’ch plentyn
Gallwch gofrestru’ch plentyn ar-lein ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae a byddant yn gallu dod i unrhyw un o’n sesiynau wedyn.
Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru’ch plentyn, a byddant yn cael dod i unrhyw un o’n sesiynau Ceidwad Chwarae nes byddant yn rhy hen.
Cofrestrwch eich plentyn ar-lein ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae
Rhagor o wybodaeth
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am y sesiwn yma, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Ceidwad Chwarae.