Gadewch i ni Chwarae Allan - Haf 2024

Mae Gadewch i ni Chwarae Allan yn sesiynau chwarae a gynhelir gan Wasanaeth Ceidwaid Chwarae Sir Ddinbych ac yn darparu cyfleoedd chwarae mynediad agored i blant yn eu cymunedau lleol, gan roi cyfle iddynt:

  • chwarae
  • cael hwyl
  • gwneud llanast a bod yn fwdlyd
  • gwneud ffrindiau

Mae gan y sesiynau hyn bolisi mynediad agored, sy’n golygu bod y bobl ifanc yn rhydd i adael y sesiwn unrhyw bryd.

Plant yn chwarae gyda baner lliwgar

Ar gyfer pwy mae'r sesiynau? 

Mae’r sesiynau’n cael eu hargymell ar gyfer plant 6 i 13 oed.

Mae croeso i blant dan 6 oed ond bydd yn rhaid iddyn nhw fod yng nghwmni oedolyn.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Dewiswch un o’r ardaloedd canlynol i weld pryd a lle mae’r sesiynau Beth am Chwarae Allan yn digwydd:

Bodelwyddan

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Modelwyddan eu cynnal o 10:30am tan 12 hanner dydd ar gaeau cymunedol Bodelwyddan ar:

  • Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2024
  • Dydd Mercher 31 Gorffennaf 2024
  • Dydd Mercher 14 Awst 2024
  • Dydd Mercher 21 Awst 2024
  • Dydd Mercher 28 Awst 2024

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Cyfeiriad Chwarae Allan Bodelwyddan yw

Ty Fry Lane
LL18 5TE

Corwen

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan yng Nghorwen eu cynnal o 2pm tan 3:30pm yn Maes Chwarae Clawdd Poncen ar:

  • Dydd Llun 22 Gorffennaf 2024
  • Dydd Llun 29 Gorffennaf 2024
  • Dydd Llun 5 Awst 2024
  • Dydd Llun 12 Awst 2024
  • Dydd Llun 19 Awst 2024

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Cyfeiriad Maes Chwarae Clawdd Poncen yw

46 Clawdd Poncen
Corwen
LL21 9RT

Dinbych

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Ddinbych eu cynnal o 2pm tan 3:30pm yn Cae Hywel ar:

  • Dydd Iau 25 Gorffennaf 2024
  • Dydd Iau 1 Awst 2024
  • Dydd Iau 8 Awst 2024
  • Dydd Iau 15 Awst 2024
  • Dydd Iau 22 Awst 2024
  • Dydd Iau 29 Awst 2024

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad Cae Hywel yw

Maes Y Goron
Dinbych
LL16 3PY

Parcio

Gallwch barcio yn maes parcio Mount Pleasant

Dyserth

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Dyserth eu cynnal o 10:30am tan 12 hanner dydd yn Cae Chwarae King George V ar:

  • Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024
  • Dydd Mawrth 30 Gorffennaf 2024
  • Dydd Mawrth 6 Awst 2024
  • Dydd Mawrth 13 Awst 2024
  • Dydd Mawrth 20 Awst 2024
  • Dydd Mawrth 27 Awst 2024

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Sut i gyrraedd Cae Chwarae King George V

Parcio

Mae yna faes parcio bychan ger cae chwarae King George V

Gallt Melyd

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Gallt Melyd eu cynnal o 2pm tan 3:30pm am Gerddi Coffa ar Dydd Gwener 31 Mai 2024.

  • Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2024
  • Dydd Gwener 2 Awst 2024
  • Dydd Gwener 9 Awst 2024
  • Dydd Gwener 16 Awst 2024
  • Dydd Gwener 23 Awst 2024
  • Dydd Gwener 30 Awst 2024

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Cyfeiriad Gerddi Coffa yw

Ffordd Pennant
Meliden
LL19 8LF

Llanelwy

Cynhelir y sesiwn Beth am Chwarae Allan yn Llanelwy o 2pm tan 3:30pm am Parc Stryd Isaf Llanelwy ar:

  • Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024
  • Dydd Mawrth 30 Gorffennaf 2024
  • Dydd Mawrth 6 Awst 2024
  • Dydd Mawrth 13 Awst 2024
  • Dydd Mawrth 20 Awst 2024
  • Dydd Mawrth 27 Awst 2024

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad Parc Stryd Isaf Llanelwy yw:

Stryd Fawr Isaf
Llanelwy
LL17 0SG.

Llangollen

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Llangollen eu cynnal o 9:30am tan 11:25am yn Ysgol Bryn Collen ar:

  • Dydd Llun 22 Gorffennaf 2024
  • Dydd Llun 29 Gorffennaf 2024
  • Dydd Llun 5 Awst 2024
  • Dydd Llun 12 Awst 2024
  • Dydd Llun 19 Awst 2024

Gwybodaeth am y Lleoliad

Darganfyddwch sut i gyrraedd Ysgol Bryn Collen

Prestatyn

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Prestatyn eu cynnal o 10:30am tan 12 hanner dydd am Clwb Pêl-droed Tref Prestatyn ar:

  • Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2024
  • Dydd Gwener 2 Awst 2024
  • Dydd Gwener 9 Awst 2024
  • Dydd Gwener 16 Awst 2024
  • Dydd Gwener 23 Awst 2024
  • Dydd Gwener 30 Awst 2024

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad Clwb Pêl-droed Tref Prestatyn yw

Bastion Gardens
Prestatyn
LL19 7LU

Parcio

Nid oes lle i barcio yng Nghaeau Chwarae a Llecyn Gemau Amlddefnydd Gallt Melyd

Rhuthun

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan yn Rhuthun eu cynnal o 10:30am tan 12 hanner dydd am Cae Ddol ar:

  • Dydd Iau 25 Gorffennaf 2024
  • Dydd Iau 1 Awst 2024
  • Dydd Iau 8 Awst 2024
  • Dydd Iau 15 Awst 2024
  • Dydd Iau 22 Awst 2024
  • Dydd Iau 29 Awst 2024

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Sut i gyrraedd Cae Ddol (gwefan allanol)

Parcio

Gallwch barcio yng Nghae Ddol

Y Rhyl

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan yn y Rhyl eu cynnal o 2pm tan 3:30pm am Canolfan y Dderwen, y Rhyl ar:

  • Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2024
  • Dydd Mercher 31 Gorffennaf 2024
  • Dydd Mercher 14 Awst 2024
  • Dydd Mercher 21 Awst 2024
  • Dydd Mercher 28 Awst 2024

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw

Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY

Parcio yng Nghanolfan y Dderwen

Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.

Plant yn chwarae y tu allan

Sut i gymryd rhan

Bydd angen i rieni neu warcheidwaid plant 6 oed a hŷn gofrestru manylion eu plentyn ar gyfer pob ardal yr hoffent i’w plentyn fynychu sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan.

Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yn gwbl gynhwysol, gallwch adael i ni wybod am unrhyw anghenion wrth gofrestru manylion eich plentyn ar-lein.

Os yw’ch plentyn chi’n iau na chwe blwydd oed nid oes angen ichi gofrestru eu manylion. Siaradwch ag aelod o’r tîm wrth gyrraedd i roi gwybod y bydd eich plentyn yn cymryd rhan a sôn am unrhyw anghenion y dylent wybod amdanynt.

Cofrestrwch fanylion eich plentyn