Harbwr y Rhyl: Cyngor Peilotage (cyngor cyffredinol i Longwyr)
Mynediad llanw
Lleolir Harbwr Y Rhyl ar ben gorllewinol Y Rhyl a dyma’r ffin rhwng Y Rhyl a Bae Cinmel.
Mae uchder sychu o 4 metr uwch Chart Datum, a dylai cychod a llongau sydd am ymweld neu aros yn yr harbwr yn ystod llanw isel allu sychu allan a bod ar dir.
Cysylltu â ni
Sianel VHF: 14
Ffôn Swyddfa: 01824 708400
Swyddog ar Ddyletswydd: 07766 133320
Swyddfa'r Harbwr
Lôn Trwyn Horton
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 5AX
E-bost: rhyl.harbour@denbighshire.gov.uk
Pont Gerddwyr / Beicio
Mae mynediad i ac o'r harbwr mewnol drwy'r Bont Gerddwyr / Beicio, bydd y bont yn cael ei chodi ar alw, yn ddibynnol ar gryfder y gwynt ac os yw uchder y llanw yn golygu y gellir hwylio yn yr harbwr a thuag ato.
Nodiadau
- Wrth gyrraedd Harbwr Y Rhyl: i drefnu agor y bont, cysylltwch â Swyddfa'r Harbwr wrth gyrraedd y Glwyd Tua'r Môr yn safle N53°19.45- W003°30.43 pan roddir cyngor am gael mynediad drwy’r bont.
- Gadael yr Harbwr Mewnol: Cyn gadael angorfa a gadael yr harbwr mewnol cysylltwch â Swyddfa'r Harbwr er mwyn trefnu i agor y bont, peidiwch â gadael yr angorfa hyd nes bydd hynny wedi ei gymeradwyo.
- Os bydd gwynt o gyflymder Cryfder 7 ac uwch, bydd y bont ar gau (ni fydd modd yn fordwyol). Os bydd y bont ar gau oherwydd amodau'r tywydd neu ddim yn cael ei gweithredu am unrhyw reswm arall gall cychod a llongau ddocio ar bontynau'r harbwr allanol ar ôl derbyn caniatâd Swyddfa'r Harbwr.
- Gall rhai crefft fach basio drwy'r bont pan fydd ar gau, ar eu menter eu hunain.
Cyrsiau a Phellteroedd
Gofal
Mae'r Cyrsiau a'r Pellteroedd wedi eu nodi mor gywir ag y mae’r raddfa lunio sydd ar gael yn ei ganiatáu, a dylid eu defnyddio â gofal.
Os ydych chi'n mynd ymlaen i'r harbwr mewnol gadewch olau rhif 14 ac 16 i'r ochr chwith, a phontŵn yr harbwr canol i'r ochr dde (wedi'i farcio ar y pennau tua'r môr a thua'r tir gyda Golau Chwith Sianel Orau, Côn Gwyrdd Unigol (Topmark), a Golau G (2+1) 6s). Pasio o dan rychwant deheuol y Bont i Gerddwyr / Beicio. Wrth adael y bont mae’r dŵr gorau ar ochr gogledd (dde) yr harbwr mewnol. Ewch at yr angorfa a ddyrannwyd i chi.
Os ydych yn aros yn yr harbwr allanol ewch i'ch angorfa ar ôl pasio golau rhif 12 pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.
Bwi / Marc
Bwi / Marc (Harbwr y Rhyl)
Bwi / Marc | Disgrifiad | Goleuadau | I'r Marc Nesaf |
|
|
|
Cwrs |
Pellter i n |
Nod Ffordd 1 |
Clwyd tua'r môr |
Golau Q.R. |
160° |
0.03 NM |
Goleufa rhif 2 |
Goleufa Porthladd |
Fl.R(2) 4s |
160° |
0.093 NM |
Goleufa rhif 4 |
Goleufa Porthladd |
Fl.R(2) 4s |
173° |
0.087 NM |
Goleufa rhif 6 |
Goleufa Porthladd |
Fl.R(2) 4s |
180° |
0.086 NM |
Goleufa rhif 8 |
Goleufa Porthladd |
Fl.R(2) 4s |
187° |
0.087 NM |
Goleufa rhif 10 |
Goleufa Porthladd |
Fl.R(2) 4s |
198° |
0.073 NM |
Goleufa rhif 12 |
Goleufa Porthladd |
ISO.R 4s |
221° |
0.055 NM |
Goleufa rhif 14 |
Goleufa Porthladd |
ISO.R 4s |
233° |
0.055 NM |
Goleufa rhif 16 |
Goleufa Porthladd |
ISO.R 4s |
233° |
0.049 NM |
Nodiadau
- Mae llif y llanw yn ardal y sianel ddynesu a’r harbwr yn gryf (3 Knots +) ar adegau.
- Wrth ddynesu, mae'r dŵr gorau yn yr ardal 5 metr i 20 metr oddi wrth olau’r ochr chwith.
- Dylai llongau a chychod ar gyrsiau o’r naill ochr a'r llall basio ochr chwith i ochr chwith.
Goleuadau mordwyo eraill
- Mae'r rhan sy'n wynebu'r môr o wal yr harbwr allanol yn arddangos tŵr fertigol 4 metr yn dangos 2 olau F.G fertigol.
- Mae'r rhan sy'n wynebu'r môr o bontŵn cei yr harbwr allanol wedi ei farcio â nod dydd ochr dde a golau Fl.G(2)4s. Mae pen y pontŵn sy'n wynebu'r tir wedi ei farcio â golau Fl.G(2)4s.
- Mae dau rychwant y bont wedi eu marcio â 2 x olau sefydlog gwyrdd fertigol ar yr ochr dde a 2 x olau sefydlog coch fertigol ar ochr chwith pob agoriad.