Iechyd a lles mewn llyfrgelloedd
Gwella eich hapusrwydd, lleihau eich lefelau straen a chysylltu ag eraill.
Manteision darllen
Mae darllen yn ffordd wych o ymlacio a theimlo’n well a gall eich helpu i ddelio â rhai o bwysau bywyd.
Cysylltu â’ch cymuned
Mae eich llyfrgell yn gwasanaethu fel man cyfarfod cymunedol sydd yn eich cysylltu â grwpiau lleol, clybiau a chymdeithasau, a gyda’r bobl sydd yn byw yn eich ardal. Dewch i’r llyfrgell i ddarllen, astudio, ymlacio a chymdeithasu.
Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn
Mae Darllen yn Well ar Bresgripsiwn yn helpu pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd a’u lles drwy ddarllen llyfrau sy’n helpu. Mae’r llyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu dewis gan arbenigwyr iechyd a phobl sydd yn byw gyda’r cyflyrau a nodir. Gellir argymell llyfr i chi gan weithiwr proffesiynol iechyd, neu allwch ymweld â'ch llyfrgell leol a mynd â benthyg llyfr am ddim. Mae yna lyfrau i oedolion, plant a phlant yn eu harddegau i’ch helpu i ddeall emosiynau a theimladau, cyflyrau iechyd meddwl a dementia:
Cyfeillgar i Ddementia
Mae’r holl staff yn llyfrgelloedd Sir Ddinbych wedi cael eu hyfforddi fel Cyfeillion Dementia ac yn ceisio darparu'r profiad gorau posibl i gwsmeriaid sydd yn cael eu heffeithio gan Ddementia. Eich llyfrgell leol yw’r man perffaith i gael mynediad at wasanaethau sy’n ymwneud â Dementia.
Bagiau Hel Atgofion
Mae ein bagiau hel atgofion yn cynnwys casgliad o lyfrau, cerddi, eitemau ac arogleuon sydd wedi eu cynllunio i ysgogi’r synhwyrau ac annog hel atgofion a thrafodaeth. Mae’r Bagiau Hel Atgofion yn cynnwys ‘Pecyn Gweithgaredd Lles Creadigol’ sy’n cynnwys syniadau ar gyfer gweithgareddau creadigol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a gofalwyr.
Mae modd benthyg y bagiau gyda cherdyn llyfrgell, yn union fel llyfr, am gyfnod o 3 wythnos. Mae 8 gwahanol thema i ddewis ohonynt, ac mae modd archebu’r bagiau a’u casglu o’ch llyfrgell leol am ddim.
Blychau Hel Atgofion
Mae’r Blychau Hel Atgofion yn cynnwys amrywiaeth o wrthrychau sydd wedi’u cynllunio i ddeffro’r synhwyrau, tanio sgyrsiau ac ailgynnau atgofion, ac maent yn ddelfrydol ar gyfer lleoliadau cartref gofal neu grŵp. Mae 5 blwch gwahanol i ddewis ohonynt.
Ail-fyw noson yn y sinema gyda'n hambwrdd tywysydd ym mlwch Sinema'r 1950au. Ail-ymwelwch â meysydd chwarae ac ystafelloedd ysgol y gorffennol gyda blwch Dyddiau Ysgol y 1950au, neu beth am daith i Glan Môr y 1950au. Bydd Sied y 1950au yn mynd â chi’n ôl i tincian yn y sied ac anturiaethau DIY, a bydd Gweithle’r 1950au yn mynd â chi yn ôl i weithleoedd y gorffennol.
Gellir gofyn am y blychau a'u danfon i'ch llyfrgell leol i'w casglu, yn rhad ac am ddim, lle gellir eu benthyca yn union fel llyfr.
Llyfrgell Jig-sos
Wyddoch chi fod amrywiaeth o jig-sos ar gael yn eich llyfrgell leol y gellir eu benthyca gyda cherdyn llyfrgell, yn union fel llyfr?
Mae'r posau i gyd wedi'u cynllunio ar gyfer oedolion ac yn amrywio o 35 i 1000 o ddarnau. Mae jig-sos yn annog sgwrs ac atgofion, ac yn ysgogi'r ymennydd, maent yn wych ar gyfer ymlacio ac ymdawelu. Mae gennym hefyd ddewis o bosau darn mawr sy'n haws i bobl â sgiliau cyfyngedig.
Os na allwch gyrraedd y llyfrgell oherwydd iechyd gwael, anabledd, neu gyfrifoldebau gofalu, gall y gwasanaeth llyfrgell i’r cartref ddod â llyfrau ac adnoddau i’ch cartref unwaith y mis. Gallwn ddod ag eitemau i’ch cartref, llety gwarchod, cartref nyrsio neu ganolfan ddydd. Gallwch ddefnyddio ein catalog ar-lein i wneud cais am eitemau 24 awr y dydd.
Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, eisiau defnyddio’r gwasanaeth llyfrgell i’r cartref, ffoniwch Lyfrgell Rhuthun ar 01824 705274.
Pwyntiau Siarad
Cynhelir Pwyntiau Siarad mewn llyfrgelloedd lleol ledled y sir lle gallwch gael sgwrs wyneb yn wyneb am yr hyn sy’n bwysig i chi.
Bydd pobl o ystod o sefydliadau lleol ar gael i gynnig gwybodaeth, cyngor neu gymorth, a gallwch ddod o hyd i ba fath o gymorth sydd ar gael i gefnogi eich iechyd a lles yn lleol.