Gwasanaethau digidol a gwybodaeth mewn llyfrgelloedd
BorrowBox
Fel aelod o'r llyfrgell gallwch gyrchu miloedd o Lyfrau Llafar ac eLyfrau am ddim trwy Borrowbox.
Mae Borrowbox hefyd bellach yn cynnwys detholiad o bapurau newydd digidol. Mae'r papurau newydd ar gael ar y diwrnod cyhoeddi ac yn edrych yn union fel y rhifyn printiedig. Ymhlith y teitlau mae'r Daily Post, Y Cymro, y Daily Mail, yr Independent a'r Guardian.
Yn syml, lawrlwythwch yr ap i'ch ffôn neu dabled, neu ewch i BorrowBox (gwefan allanol) – mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch cerdyn llyfrgell a'ch PIN.
PressReader
PressReader yw eich stondin newyddion ddigidol ar gyfer papurau newydd a chylchgronau. Gydag ap PressReader neu ar-lein, gallwch gael mynediad at fwy na 7,000 o brif gyhoeddiadau’r byd cyn gynted ag y byddant ar gael ar-lein.
Gallwch weld rhifynnau yn eu ffurf print gwreiddiol, eu darllen yn syth neu eu lawrlwytho i’w darllen yn ddiweddarach ar eich dyfeisiau. Gyda chyhoeddiadau mewn mwy na 60 iaith ac o 120 gwlad, gallwch gael mynediad at gynnwys o gartref ac o bob cwr o’r byd. O’r Daily Post, Evening Post, The Guardian, Forbes, Vogue a’r Western Mail, mae PressReader yn darparu rhifynnau llawn o bapurau newydd a chylchgronau premiwm yn syth.
I ddechrau arni a mwynhau cylchgronau a phapurau newydd digidol, lawrlwythwch PressReader o’r App Store neu ewch i pressreader.com (gwefan allanol), a mewngofnodwch gyda rhif eich cerdyn llyfrgell.
Lawrlwythwch ap PressReader ar App Store (gwefan allanol)
Lawrlwythwch ap PressReader ar Google Play (gwefan allanol)
Find My Past
Gallwch gael mynediad am ddim i Find My Past (gwefan allanol) yn eich llyfrgell leol. Mae hyn yn cynnwys cyfrifiad 1921. Find My Past yw'r lle perffaith i dyfu eich coeden deulu a datgloi straeon sy'n diffinio'ch gorffennol, yn siapio'ch presennol ac yn ysbrydoli'ch dyfodol. Sylwch mai dim ond nifer cyfyngedig o sesiynau y gallwn eu cynnig ar unrhyw un adeg.
Ancestry
Gallwch ddefnyddio Ancestry (gwefan allanol) yn rhad ac am ddim yn eich llyfrgell leol. Mae’n caniatáu i chi ddatblygu eich coeden deulu yn sydyn ac yn hawdd ac ymchwilio hanes eich teulu.
Theory Test Pro
Mae Theory Test Pro yn efelychiad realistig ar-lein o brawf theori gyrru'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys cwestiynau swyddogol, deunydd fideo ar ganfod perygl a fersiwn ar-lein o Reolau'r Ffordd Fawr. Gallwch ddefnyddio Theory Test Pro yn rhad ac am ddim fel aelod o’r llyfrgell.
Cliciwch yma i ddefnyddio Theory Test Pro (gwefan allanol)
Mynediad at Ymchwil
Mae Mynediad i Ymchwil (gwefan allanol) yn rhoi mynediad am ddim i dros 15 miliwn o erthyglau academaidd yn eich llyfrgell leol. Gall myfyrwyr ac ymchwilwyr annibynnol nawr gael mynediad at lawer o bapurau academaidd gorau’r byd gan gyhoeddwyr blaenllaw sydd wedi rhyddhau cynnwys eu cyfnodolion am ddim.