Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi gwybod i drigolion bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar y gweill ger y Llyn Morol yn y Rhyl. Er mwyn gwneud y gwaith, bydd y llyn yn cael ei ddraenio ddydd Llun 24 Chwefror 2025 am wythnos tra bod archwiliadau perthnasol a gwaith cynnal a chadw cyffredinol blynyddol yn digwydd ar y safle.
Marine Lake
Wellington Road
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1AQ
Ffôn: 01824 708400
Mae'r Llyn Morwrol yn gronfa ddŵr 12 hectar o law dyn ger aber Afon Clwyd.
I'r rheiny ohonoch chi sydd ddim eisiau gwlychu eich traed, beth am fynd am dro o amgylch y llyn. Mae'r Llwybr Amgylcheddol newydd bellach ar agor lle gallwch chi ryfeddu ar holl fywyd gwyllt yr ardal. Neu, beth am daith ar y Rheilffordd Fach sy’n cael ei gweithredu gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Stêm y Rhyl (gwefan allanol) - y rheilffordd hynaf o’i math ym Mhrydain.
Oriau agor
Mae'r tir o amgylch y Llyn Morol ar agor drwy gydol y flwyddyn, felly gallwch fynd am dro ar unrhyw adeg. Mae yma hefyd ddau faes chwarae awyr agored, un ar gyfer y plant bach ac un ar gyfer plant ychydig yn hŷn.
Mae gan y Llyn Morol ddwy amserlen ar gyfer defnyddwyr gwahanol.
Mae'r wybodaeth hon yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd. Gwiriwch eto'n fuan.
Rheolau
Mae rheolau gwahanol yn dibynnu ar ba fach o gyfarpar sydd gennych chi.
Fodd bynnag, bydd yn rhai di bawb gael:
- Yswiriant
- Siaced achub neu gymorth hynofedd
- Trwydded (gellir prynu trwydded o Swyddfa'r Harbwr y Rhyl)
Ni chaniateir nofio.
Sgïo dŵr a thonfyrddio
Caniateir sgïo-dŵr a thonfyrddio drwy Glwb Sgïo Dŵr Ocean Beach yn unig.
Bydd angen i unrhyw un â diddordeb yn y gweithgareddau hyn ar y llyn holi gyda’r clwb am ddod yn aelod. Ni chaniateir i gerbydau pŵer weithredu ar y llyn, ac eithrio Clwb Sgïo Dŵr Ocean Beach.
Mae defnydd Peiriant Dŵr Personol (Jet Sgïo) wedi'i wahardd ar Marine Lake.
Hwylio Di-bŵer
Mae croeso i berchnogion Canŵod, Caiacau, Bordau Hwylfyrddio a Chychod Hwylio hefyd ddefnyddio'r Llyn Morol.
Fel gyda badau pŵer, mae’n rhaid i chi gyflwyno tystysgrif yswiriant ddilys ac mae’n rhaid talu cyn y rhoddir trwydded a sticer cwch.
Nid fydd yna unrhyw sgïo na gweithgaredd pŵer, dim ond hwylio / di-bŵer o fis Hydref i fis Mawrth. Mae hynny drwy drafodaeth â Fforwm Defnyddwyr y Llyn Morol, gan nad ydyn ni am darfu ar fywyd gwyllt sy'n defnyddio'r ynys yn ystod y misoedd hyn.
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.