Marine Lake: Gweithredwyr Masnachol
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi gwybod i drigolion bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar y gweill ger y Llyn Morol yn y Rhyl. Er mwyn gwneud y gwaith, bydd y llyn yn cael ei ddraenio ddydd Llun 24 Chwefror 2025 am wythnos tra bod archwiliadau perthnasol a gwaith cynnal a chadw cyffredinol blynyddol yn digwydd ar y safle.
Os ydych chi'n rhedeg Ysgol Bwrdd Padlo ar eich Traed, yn dysgu canŵio ac arnoch chi eisiau amgylchedd diogel i hyfforddi'ch cwsmeriaid, neu’n cynnal cwrs campau dŵr, yna pam na ddowch chi yma i'r Llyn Morol?
Does arnoch chi ddim angen trwydded ar gyfer pob cwch neu ddarn o gyfarpar, ond mae'n rhaid i chi gyflwyno tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus (gwerth o leiaf £5 miliwn), asesiadau risg, ynghyd â gweithdrefnau gweithredu, chynlluniau gweithredu mewn argyfwng a siec Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar hyn o bryd, o leiaf bythefnos cyn eich sesiwn gyntaf.
Trwydded Gweithredwr Masnachol
Os hoffech chi ddefnyddio'r Llyn Morol fel gweithredwr masnachol, yna mae arnoch chi angen trwydded. Gallwch wneud cais am drwydded drwy lenwi a dychwelyd ffurflen gais.
Ffurflen gais: Gweithredwr Masnachol Marine Lake (PDF, 312KB)
Costau
Ffioedd Marine Lake
Sut i archebu
Os hoffech chi drefnu digwyddiad ffoniwch 01824 708400 neu e-bostio rhyl.harbour@denbighshire.gov.uk.