Bydd camddefnyddio cyffuriau’n digwydd pan fydd rhywun yn cymryd un neu fwy o gyffuriau’n rheolaidd i newid eu tymer, eu hemosiynau neu gyflwr eu hymwybod. Un o beryglon mwyaf camddefnyddio cyffuriau ydi y gallwch ddatblygu llwyrddibyniaeth ar gyffuriau.
Sut allwn ni helpu?
Rydym yn cynnig cefnogaeth a chanllawiau i bobl sy’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol. Ein nod yw darparu triniaeth sy’n canolbwyntio ar adfer sydd wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion unigolyn.
Rydym yn darparu:
- Asesiad er mwyn nodi anghenion penodol a’r canlyniad dymunol o'r driniaeth
- Gweithiwr allweddol fydd yn darparu dadansoddiad gweithredol o gamddefnydd sylweddau unigolyn
- Argymell gwasanaethau sy'n cynnwys triniaeth cyffuriau cysgu
- Dadwenwyno cymunedol a darparu gwasanaeth dadwenwyno i gleifion mewnol.
- Ailsefydlu cymunedol sy’n cynnwys gwaith atal ail-ddechrau camddefnyddio a chefnogaeth barhaus gan weithwyr allweddol
- Ailsefydlu preswyl – mewn cydweithrediad â’r awdurdod lleol, gallwn drefnu lleoliadau mewn canolfannau ailsefydlu arbenigol.
- Mynediad i Raglen Grŵp Symud Ymlaen
- Grŵp Cefnogi Adfer Wythnosol
- Gwasanaeth cyswllt alcohol yn darparu cyswllt rhwng yr ysbyty a’r gymuned.
- Gwasanaeth bydwragedd arbenigol i gefnogi merched beichiog sy’n defnyddio sylweddau
- Cefnogaeth a chyngor i gefnogi rhai sy'n gadael carchar
- Cefnogaeth i gael mynediad i wasanaethau eraill megis tai neu reoli dyled
- Gwasanaethau lleihau niwed gan gynnwys gwasanaeth allgymorth cymunedol
- Gwasanaeth cyfnewid nodwyddau
- Cyngor nodwyddau diogel, cyngor i leihau'r perygl o orddos damweiniol a darpariaeth Naloxone
- Profion afiechydon yn y gwaed, gwybodaeth a chyngor
- Gwybodaeth a chyngor am gamddefnyddio sylweddau
Pwyntiau Siarad
Gallwch ymweld ag un o’r Pwyntiau Siarad lleol i gael sgwrs ac i dderbyn unrhyw wybodaeth neu gyngor sydd ei angen arnoch.
Pwynt Mynediad Sengl
Os na allwch gyrraedd Pwynt Siarad neu eich bod eisiau trafod â rhywun dros y ffôn, gallwch gysylltu â’n tîm Pwynt Mynediad Sengl.