A yw fy nghartref yn addas ar fy nghyfer?
Mae yna newidiadau a gwelliannau y gallwch chi eu gwneud i’ch cartref er mwyn iddo fod yn ddiogel i chi fyw ynddo’n annibynnol.
Mae DEWIS (gwefan allanol) yn gyfeiriadur o wasanaethau a chyngor sydd ar gael i gefnogi’ch annibyniaeth yn eich cartref.
Mae gwasanaeth atal codymau ar gael yng Ngogledd Cymru i unrhyw un dros 65 oed sydd wedi cael codwm neu sydd ofn cael codwm. .
Gall Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Sir Ddinbych ddarparu amrywiaeth o gyfarpar i helpu gyda thasgau bob dydd, fydd o gymorth i chi fod yn annibynnol ac yn ddiogel.
Teleofal – cyfarpar arbenigol i’ch helpu i fod yn annibynnol yn eich cartref.
Bydd Gofal a Thrwsio (gwefan allanol) yn helpu perchenogion tŷ dros 60 oed a thenantiaid preifat i drwsio, addasu a chynnal a chadw eu cartrefi. Bydd Gofal a Thrwsio (gwefan allanol) yn dod i’ch gweld chi yn eich cartref i drafod pa waith trwsio neu addasu y mae arnoch ei angen, yr atebion posib, y gost debygol a ffynonellau cyllid.
Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth a chymorth am addasiadau tai i gefnogi eich annibyniaeth yn y tymor hirach.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor, gallwch ymweld â Phwynt Siarad neu gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl.