Celf Cymunedol yn Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig
Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Hamdden Sir Ddinbych Cyf sy’n rheoli a darparu gweithgareddau hamdden, chwaraeon a chelf a diwylliannol er budd preswylwyr ac ymwelwyr i’r sir.
Nod y gwasanaeth Celf Cymunedol yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf yw darparu cyfleoedd i bawb gymryd rhan yn y celfyddydau, waeth beth yw eu profiad, oedran neu gefndir, ac mae wedi’i gynllunio i gefnogi’r blaenoriaethau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r tîm artistig yn darparu prosiectau celf cymunedol amlddisgyblaethol ar draws y sir, gan gydweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid o’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector gwirfoddol. Mae gan y gwasanaeth hanes blaenorol o ddarparu gwaith arobryn o’r ansawdd uchaf – wedi’i arwain gan artistiaid a chyfranogwyr.
I gael rhagor o wybodaeth:
Mae pwysigrwydd y celfyddydau mewn hyrwyddo iechyd a lles yn cael ei dderbyn yn eang erbyn hyn, fel a adroddir yn Creative Health: The Arts for Health and Wellbeing.
Rydym ni yng Nghelfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych yn rhedeg rhaglen lawn o weithgareddau'r Celfyddydau mewn Iechyd mewn partneriaeth â gwasanaethau awdurdodau lleol megis y Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Gwasanaethau Ieuenctid, sefydliadau cyhoeddus megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a sefydliadau ac elusennau trydydd sector megis Mind, Hosbis Sant Cyndeyrn, y Gymdeithas Strôc a Chanolfan Ni yng Nghorwen.
Oeddech chi’n gwybod?
- Mae mynychu digwyddiad celfyddydol o leiaf unwaith y mis yn ystod blynyddoedd hwyrach bywyd yn lleihau’r risg o iselder 50%.
- Mae ymweld ag oriel neu amgueddfa bob ychydig fisoedd yn lleihau eich perygl i ddatblygu dementia 44% - ac mae'r manteision yn para am hyd at 10 mlynedd ar ôl i chi stopio.
Ymgolli mewn Celf
Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych oedd yr unig bartner yng Nghymru i gymryd rhan yn y prosiect ymchwil pwysig Dementia a’r Dychymyg (gwefan allanol).
Yn dilyn y prosiect ymchwil mae’r tîm wedi parhau i ddatblygu ei waith gyda phobl sy’n byw â dementia gyda phrosiect Ymgolli Mewn Celf, a enillodd Wobr y Celfyddydau, The Hearts for the Arts Award for Best Local Authority Arts Project Encouraging Community Cohesion yn 2018.
Mae’r prosiect Ymgolli Mewn Celf ar gyfer pobl sy’n byw â dementia, eu teulu a’u gofalwyr. Nod y prosiect yw ymchwilio i’r hyn y gall y celfyddydau gweledol ei gyfrannu wrth fynd i’r afael â’r materion a all effeithio ar bobl â dementia, gan gynnwys ynysu cymdeithasol, hyder, cyfathrebu, ansawdd bywyd a lles. Datblygwyd y prosiect gyda chefnogaeth y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor.
Caiff y prosiect Ymgolli mewn Celf, sydd wedi ennill gwobrau, ei gynnal yng Nghanolfan Grefft Rhuthun bob prynhawn dydd Mawrth, 1pm tan 3pm. Yn cael eu harwain gan yr artist proffesiynol Sian Hughes, mae’r gweithdai wythnosol yn cynnwys paned o de a sgwrs, ymweliad â’r arddangosfeydd presennol yn yr orielau a gwaith creadigol wedi ei ysbrydoli gan yr eitemau a gaiff eu harddangos yn yr orielau.
Caiff Ymgolli mewn Celf ei gynnal yn ystod y tymor ac mae yna dri phrosiect 11 wythnos bob blwyddyn.
Mae bocsys crefft a Chryno Ddisgiau / DVDs yn parhau ar gael i’w danfon i’r cartref ar gyfer y rhai hynny na allant ddod i Ruthun.
Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu ymweliad blasu, cysylltwch â Jo McGregor ar jo.mcgregor@denbighshireleisure.co.uk neu ffoniwch Jo ar 07799 582766.