Un Pwynt Mynediad

Gall unrhyw un ddefnyddio Un Pwynt Mynediad. Mae wedi ei ddatblygu i gefnogi dinasyddion a gweithwyr proffesiynol Sir Ddinbych. Mae'n amhosibl i bawb wybod am yr holl wasanaethau sydd ar gael i gefnogi iechyd a lles pobl yn Sir Ddinbych. Gall Un Pwynt Mynediad ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am y gwasanaethau sydd ar gael i sicrhau fod anghenion dinasyddion yn cael eu diwallu'n briodol.

Mae'r Tîm Un Pwynt Mynediad yn cynnwys staff profiadol o’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector, sy’n gallu darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am y gwasanaethau sydd ar gael.

Beth yw pwrpas Un Pwynt Mynediad Sir Ddinbych?

Gwasanaethau wedi eu cydlynu i gefnogi annibyniaeth fwyaf.

Mae Un Pwynt Mynediad yn 'ddrws ffrynt i wasanaethau' er mwyn sicrhau'ch bod yn derbyn y Gofal Cywir, yn y Man Cywir gan y bobl sydd â'r sgiliau cywir ar yr amser cywir, y tro cyntaf.

Gwasanaethau wedi’u symleiddio ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol.

Rydym yn ymroddedig i roi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl dros eu bywydau i'w galluogi i fyw mor annibynnol ag sy'n bosibl:

  • Hyrwyddo gwasanaethau cymunedol ataliol
  • Annog dull gweithio cytbwys i asesu anghenion
  • Sicrhau fod dinasyddion yn ganolbwynt i sgyrsiau a phenderfyniadau
  • Canolbwyntio ar gryfderau'r unigolyn er mwyn ei gynorthwyo i gadw ei annibyniaeth
  • Gwella cysylltiadau rhwng pobl a'u cymunedau
  • Ymatebion cynt i anghenion gofal a chymorth pobl

Beth sy'n bwysig i chi?

Bydd ein tîm o ymgynhorwyr UPM profiadol yn gwrando yn ofalus ar eich barn, eich dymuniadau a'ch teimladau gan roi amser i chi esbonio beth yw'ch anghenion. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar hyrwyddo a pharchu’ch urddas a byddwn yn gweithio gyda chi i hyrwyddo'ch annibyniaeth. Ein ffocws yw helpu dinasyddion Sir Ddinbych i gyflawni canlyniadau iechyd, gofal a lles positif i gynnal neu wella'u lles.

Mae'n ddyletswydd ar Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddarparu / trefnu gwasanaethau ataliol mewn meysydd angen ar gyfer gofal a chefnogaeth ac ystyried beth y gellid ei wneud i ddiwallu’r anghenion hynny. Pan fydd rhywun yn cysylltu â’r Tîm Un Pwynt Mynediad, bydd y tîm yn casglu gwybodaeth i nodi pa ganlyniadau yr hoffech eu cyflawni; trafod pa ddatrysiadau y gellir dod o hyd iddyn nhw a phwy allai’ch helpu i gyflawni'r canlyniadau hynny.

Cysylltu â Un Pwynt Mynediad

Ffoniwch ni ar 0300 4561000 yn ystod yr amseroedd isod:

  • Dydd Llun: 9am i 5pm
  • Dydd Mawrth: 9am i 5pm
  • Dydd Mercher: 9am i 2pm a 3pm i 5pm
  • Dydd Iau: 9am i 5pm
  • Dydd Gwener: 9am i 5pm
  • Dydd Sadwrn: ar gau
  • Dydd Sul: ar gau
  • Gwyliau Banc: ar gau

Os oes angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd mewn argyfwng tu allan i'r oriau hyn, gallwch ffonio 0345 053 3116 (mae galwadau i’r rhif hwn yn costio 2 geiniog y funud a thâl defnyddio eich cwmni ffôn).

Cysylltwch â’r tîm Un Pwynt Mynediad ar-lein