Daw cyfarth yn naturiol i gŵn, ond gall cyfarth neu nadu cyson fod yn annifyr neu'n ddiflas i'ch cymdogion. Mae cwynion am gyfarth yn aml oherwydd bod cŵn yn cael eu gadael ar ben eu hunain tra mae eu perchnogion allan y rhan fwyaf o'r dydd. Ni fydd ci fel arfer yn cyfarth pan fydd ei berchnogion gartref, ond efallai y bydd yn dechrau gynted ag y byddant yn gadael. Yn aml, nid yw’r perchnogion yn ymwybodol bod yna broblem nes bod rhywun yn cwyno.
Os bydd ci cymydog yn tarfu arnoch, dywedwch wrthynt am y broblem, oherwydd efallai na fyddant yn gwybod bod eu ci yn cyfarth. Os nad ydynt yn barod i gymryd camau, dywedwch wrthym am y mater hwn, naill ai drwy cysylltwch â ni i gwyno am sŵn ar-lein neu drwy ffonio 01824 706000.
Bydd angen i chi roi eich manylion i ni pan fyddwch yn gwneud cwyn oherwydd ei bod yn ofynnol i ni yn ôl y gyfraith gofnodi’r effaith y mae’r sŵn yn ei gael ar y sawl sy’n gwneud y gŵyn. Fodd bynnag ni fydd perchennog y ci yn cael gwybod pwy wnaeth y gŵyn oni bai bod y mater yn mynd i’r llys, sydd yn rhywbeth eithaf anarferol.
Ar ôl i chi gwyno
Pan fyddwn yn derbyn eich cwyn byddwn yn ymweld â'r perchnogion cŵn, a byddwn yn anfon taflen gofnodi atoch chi er mwyn i chi gadw cofnod o pryd mae’r ci yn cyfarth ac am ba hyd.
Pan fyddwch yn dychwelyd y daflen gofnodi, byddwn yn asesu'r wybodaeth, ac os byddwn yn credu ei fod yn angenrheidiol, byddwn yn cynnal gwaith monitro sŵn, naill ai’n bersonol yn yr eiddo, neu drwy ddefnyddio offer. Er mwyn penderfynu a ellir ystyried y cyfarth yn niwsans sŵn statudol, byddwn yn ystyried:
- yr adeg o'r dydd neu'r nos y mae’r ci’n cyfarth
- pa mor hir mae'n mynd ymlaen
- pa mor aml mae'n digwydd
Ni fydd cyfarth achlysurol sy'n digwydd, er enghraifft, pan fydd rhywbeth yn cael ei gludo i'ch eiddo neu pan fydd cloch y drws yn canu, yn cael ei ystyried yn niwsans sŵn statudol.
Os ydym yn meddwl y gall y cyfarth gael ei ystyried yn niwsans sŵn statudol, gallwn gyflwyno hysbysiad atal sŵn i’r perchennog i atal y cyfarth parhaus.