Archwiliadau hylendid bwyd
Mae gan swyddogion iechyd yr amgylchedd hawl i fynd i mewn i eiddo bwyd i archwilio’r eiddo heb wneud apwyntiad na roi rhybudd.
Gall pa mor aml rydym ni’n ymweld amrywio o 6 mis i 3 blynedd, yn dibynnu ar eich cofnod hylendid blaenorol.
Efallai y byddwn yn ymweld â chi ar ôl i ni dderbyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd.
Beth sy’n digwydd yn ystod archwiliad?
Fel rheol rydym ni’n ymgymryd ag archwiliadau heb roi rhybudd ymlaen llaw, ac ar unrhyw adeg resymol y bydd eich busnes ar agor (gan gynnwys gyda’r nosau a phenwythnosau).
Byddwn yn edrych ar y ffordd rydych chi’n gweithredu eich busnes i ganfod peryglon posib ac i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith. Mae’n bosib y byddwn yn cymryd samplau, lluniau, yn archwilio cofnodion ac yn cymryd unrhyw fwyd rydym ni’n amau sy’n anniogel.
Byddwn yn trafod unrhyw broblem efo chi ac yn gwneud argymhellion. Byddwn hefyd yn pennu graddfa amser i chi gwblhau’r gwelliannau a rhoi manylion unrhyw ymweliad arall i wirio’ch cynnydd.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Yn syth ar ôl archwilio’ch eiddo, byddwn yn trafod ein canfyddiadau efo chi. Pe bydd angen i chi wneud gwelliannau, byddwn yn egluro beth fydd yn rhaid i chi ei wneud i gydymffurfio â’r gyfraith. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor i chi ar welliannau cyffredinol y gallwch chi eu gwneud.
Fel arfer byddwch yn derbyn adroddiad archwiliad eiddo ar adeg yr archwiliad, neu lythyr adroddiad archwiliad a fydd yn cael ei anfon atoch yn fuan wedyn, o fewn 14 diwrnod fan bellaf. Bydd yr adroddiad yn cynnwys manylion yr hyn a fydd arnoch chi angen ei wneud.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd arnom ni angen ailymweld i sicrhau bod y gwelliannau wedi eu gwneud. Os nad ydych chi’n gallu gwneud y gwelliannau mewn pryd, dylech gysylltu â ni i drafod hynny.