Newid hinsawdd ac ecolegol: Beth yw’r broblem?
Mae newid hinsawdd yn cyfeirio at newid mawr a hirdymor ym mhatrymau tywydd a thymereddau cyfartalog y blaned. Ecoleg yw’r ecosystem gysylltiedig sy’n cynnal bywyd.
Newid Hinsawdd
Ers canol y 1800au mae pobl wedi cyfrannu at ryddhad carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill i’r aer. Mae hyn yn achosi cynnydd yn y tymheredd ar draws y byd sydd yn ei dro yn arwain at newidiadau hirdymor i’r hinsawdd.
Ers y Chwyldro Diwydiannol, mae tymheredd cyfartalog y blaned wedi codi tua 1°C.
Yn 2015 drwy Gytundeb Paris cafwyd cytundeb byd-eang i gapio’r cynnydd yn y tymheredd ar 1.5%. Heb sicrhau gostyngiad mewn carbon bydd y byd yn mynd yn gynhesach ac yn gynhesach.
Effeithiau newid hinsawdd
Mae’r cynnydd yn nhymheredd y byd yn achosi newidiadau i’r hinsawdd ac i’n planed.
Effeithiau newid hinsawdd yw:
- Hafau poethach a sychach
- Gaeafau cynhesach, gwlypach
- Mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol
- Lefel y môr y codi
Mae effeithiau newid hinsawdd yn achosi:
- Mwy o sychder a thanau gwyllt
- Stormydd cryfach
- Mwy o gyfnodau o dywydd eithriadol o boeth
- Llifogydd
- Difrod i gwrel
- Llai o eira a rhew a rhew parhaol yn dadmer
- Newidiadau i gylch bywyd planhigion
- Newid i fudo a chylchoedd bywyd anifeiliaid
Newid Ecolegol
Mae’r cynnydd byd-eang mewn tymheredd yn cael effaith fyd-eang ar ecoleg. Yn gwaethygu’r sefyllfa mae gostyngiad yn niferoedd ac ansawdd cynefinoedd yn sgil gweithgareddau rheoli tir anghynaliadwy megis dadgoedwigo a’r defnydd o blaladdwyr.
Adroddwyd gostyngiad o 52% mewn poblogaethau bywyd gwyllt ar draws y byd rhwng 1970 a 2010. Mae rhywogaethau’r DU sydd mewn perygl yn cynnwys y pathew, y wiwer goch, llygoden y dŵr yn ogystal a llawer o adar a gloÿnnod byw.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am newid hinsawdd ac ecolegol o’r gwefannau canlynol: