Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt

Dechreuodd ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn 2019. Ei nod yw adfer ac ehangu’r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt.
Ar ôl asesu nifer o safleoedd o ran eu potensial fel cynefinoedd blodau gwyllt, dewiswyd 21 o safleoedd ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun. Erbyn hyn rydym yn rheoli 131 o ddolydd blodau gwyllt sydd oll yn cyfrannu at ein huchelgeisiau i gyfoethogi'r amrywiaeth o rywogaethau sydd gennym (gan gynnwys yr 11 o warchodfeydd natur sydd ar ymyl y ffordd). Mae’r rhain yn cyfrannu at bron i 70 erw o gynefin blodau gwyllt brodorol.
Mae hyn yn rhan o’n hymgyrch ehangach Caru Gwenyn, sy’n cefnogi gwaith i adfer niferoedd gwenyn a phryfed peillio eraill.
Ble mae'r dolydd blodau gwyllt?
Mae’r dolydd blodau gwyllt ar hyd a lled y sir gyfan.
Gweld safleoedd dolydd blodau gwyllt yn Sir Ddinbych (Map)
Sut mae'r safleoedd yn cael eu rheoli?
Nid yw’r glaswellt yn cael ei dorri ar y safleoedd rhwng mis Mawrth a mis Awst, heblaw am fordor bychan o amgylch pob safle. Fel hyn gall y blodau fwrw’u hadau, sy’n golygu bod y ddôl yn cynnig y budd mwyaf posib i fywyd gwyllt. Ar ddiwedd y tymor, mae offer arbenigol yn cael ei ddefnyddio i dorri’r ddôl a’r glaswellt sydd wedi’i dorri’n cael ei gario oddi yno. Bydd hynny’n helpu i wneud y pridd yn llai ffrwythlon ac yn creu pridd sy’n llai maethlon, sy’n angenrheidiol er mwyn i flodau gwyllt a glaswellt brodorol ffynnu.
Tarddiad lleol
Mae hadau glaswellt a blodau gwyllt sydd wedi’u casglu o ardaloedd o amgylch y sir wedi’u defnyddio i wella ein dolydd. Mae rhai o’r hadau hefyd wedi’u tyfu yn ein planhigfa goed i gynhyrchu egin-blanhigion i’w plannu. Mae defnyddio hadau lleol yn unig yn sicrhau bod y planhigion sy’n tyfu wedyn yn addas yn enetig i Sir Ddinbych ac am fod o’r budd mwyaf i fioamrywiaeth yn yr ardal.
Sut mae dôl blodau gwyllt yn edrych?
Mae dolydd blodau gwyllt yn amrywio o safle i safle ond fel arfer mae amrywiaeth o laswelltau a blodau gwyllt brodorol ynddyn nhw. Rhywogaethau lluosflwydd brodorol yw’r rhan fwyaf o’r blodau gwyllt yn ein dolydd, sy’n blodeuo eto bob blwyddyn. Mae gan ddolydd blodau gwyllt dymor blodeuo hir a gwahanol rywogaethau’n blodeuo ar wahanol adegau o’r flwyddyn.
Nid dolydd darluniadol yw safleoedd y dolydd blodau gwyllt. Mae dolydd darluniadol yn cynnwys amrywiaeth o blanhigion ac yn aml yn cael eu galw’n ‘ddolydd blodau gwyllt’. Fel arfer, mae dolydd darluniadol yn cynnwys llawer o rywogaethau anfrodorol, a dim glaswelltau. Mae dolydd darluniadol o lai o fudd i fioamrywiaeth ac mae angen gwaith cynnal a chadw drud, cyson arnynt.
Mathau o flodau gwyllt
Mae llawer o flodau gwyllt brodorol (blodau a fyddai’n tyfu’n naturiol yn y mannau hyn) i’w gweld. Bydd y rhain yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad a’r adeg o’r flwyddyn. Gall defnyddio ap ffôn symudol eich helpu i adnabod rhai o’r planhigion, blodau a glaswelltau ar ein safleoedd.
3 o apiau i adnabod blodau gwyllt ar eich ffôn (plantlife.org.uk) (gwefan allanol)
Oriel
Gweld oriel o ddolydd blodau gwyllt Sir Ddinbych
Pam mae angen mwy o ddolydd blodau gwyllt?
Ers y 1930au, mae mwy na 97% o’r dolydd blodau gwyllt yn y Deyrnas Gyfunol wedi diflannu. Mae hynny’n bron i 7.5 miliwn o erwau, ac ond 1% o gefn gwlad erbyn hyn yn gynefin hanfodol i bryfed peillio fel gloÿnnod byw a gwenyn.
Mae hyn wedi effeithio ar fywyd gwyllt sy’n dibynnu ar y dolydd yma ar gyfer bwyd a lloches, fel draenogod, moch daear ac ysgyfarnogod, yn ogystal ag adar fel y gornchwiglen, corhedydd y waun a’r ehedydd.
Mae cael mwy o ddolydd blodau gwyllt yn gam pwysig at atal y dirywiad a hybu mwy o gyfoeth o rywogaethau.
Fideo: Cymorth Anifeiliaid Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt (YouTube) (gwefan allanol)
Manteision eraill dolydd
- Atal llifogydd
- Lleihau gwres yn lleol mewn tywydd poeth
- Lleihau llygredd sŵn
- Creu cynefinoedd cymysg mewn ardal leol
- Creu ffynhonnell o fwyd a lloches i bryfed peillio ac anifeiliaid eraill ynghyd â chysylltu cynefinoedd a chefnogi adferiad natur
Sut allwch chi helpu
Gallwch helpu’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt drwy adael i fannau dyfu’n wyllt, fel rhan o’ch gardd eich hun. Gallai’r lawnt yn eich gardd fod yn ffynhonnell bwysig iawn o neithdar i bryfed peillio.