Datganiad Concrit Aerwydedig Aeradwyn Atgyfnerthedig, Ysgol Trefnant
21 Medi 2023: Diweddariad
Dros y dyddiau diwethaf, mae gwaith dros dro wedi mynd rhagddo yn Ysgol Trefnant i gynnal tô’r ardal sydd wedi ei effeithio er mwyn sicrhau gall yr ysgol agor yn ddiogel i ddisgyblion. Rhagwelir bydd yr ysgol yn agor i ddisgyblion ar ddydd Llun 25 Medi.
Bydd angen gwneud gwaith ychwanegol i brif neuadd yr ysgol ac felly bydd yr ardal yma ar gau i ddisgyblion a staff hyd nes bydd cynhaliaeth fwy parhaol i’r tô yn y rhan yma. Mae trefniadau wedi eu rhoi ar waith i liniaru’r anghyfleustra yma.
Mae Swyddogion y Cyngor yn parhau i weithio gyda’r ysgol i fonitro cynnydd ac maen nhw eisoes wedi cyfathrebu gyda rhieni a gwarcheidwaid am y sefyllfa. Dymuna Swyddogion y Cyngor ddiolch i holl staff yr ysgol, rhieni a gwarcheidwaid am eu hamynedd gyda’r mater yma.
19 Medi 2023: Diweddariad
Wedi i Gyngor Sir Ddinbych ddarganfod Concrit Awyredig Aerwydedig Atgyfnerthedig (RAAC) mewn rhan o adeiladau Ysgol Trefnant yr wythnos ddiwethaf, penderfynwyd cau’r ysgol ddydd Gwener, 15 Medi tra’n aros am ymchwiliadau pellach.
Yn dilyn asesiadau pellach, mae’r Cyngor bellach yn gwneud gwaith dros dro i gynnal y tô yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio er mwyn galluogi’r ysgol i ailagor yn ddiogel i ddisgyblion. Mae Swyddogioin y Cyngor yn gweithio gyda’r ysgol i fonitro’r sefyllfa a byddant yn diweddaru staff a rhieni am y dyddiad ailagor maes o law.
14 Medi 2023