Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Illia

Daeth Illia i Sir Ddinbych ym mis Awst 2022 ar ôl ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin gyda’i fam a’i frawd bach. Yn 17 ar y pryd ac yn siarad Saesneg yn rhugl, helpodd Illia ei deulu drwy’r cyfnod anodd cychwynnol wrth iddyn nhw geisio ymgartrefu yn Sir Ddinbych. Roedd Illia’n un o’r gwesteion cyntaf o dan y cynllun Uwch Noddwyr Cartrefi i Wcráin a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn fuan iawn daeth Illia’n wirfoddolwr hanfodol bwysig gan gynorthwyo Tîm Adsefydlu Cyngor Sir Ddinbych drwy ddarparu gwasanaeth cyfieithu a dehongli yn ystod cyfarfodydd gyda theuluoedd eraill. Erbyn y gaeaf 2022 roedd Illia’n 18 oed a chafodd swydd swyddogol fel cyfieithydd gyda’r Tîm Adsefydlu.

Ychydig fisoedd wedyn roedd Illia wedi cwblhau lleoliad gyda Sir Ddinbych yn Gweithio o dan y Cynllun Dechrau Gweithio a chafodd swydd fel Gweithiwr Achos Cyflogaeth. Yn y swydd hon roedd Illia’n helpu i gefnogi aelodau bregus o’r gymuned leol i oroesi rhwystrau rhag cyflogaeth. Cafodd Illia swydd newydd yn yr haf 2023 pan drosglwyddodd yn ôl i’r Tîm Adsefydlu fel Gweithiwr Achos Adsefydlu. Yn ei swydd newydd helpodd sawl teulu o Wcráin i ddod o hyd i lety hirdymor ar draws Sir Ddinbych a thu hwnt gan roi cymorth un i un iddynt a hwyluso eu hintegreiddiad llwyddiannus i’r gymuned.

Yn ystod y ddwy flynedd fer y mae Illia wedi bod yn Sir Ddinbych, mae o wedi bod yn yn astudio yn ogystal â gweithio, a chafodd ganlyniadau rhagorol yn ei arholiadau Lefel A. Mae Illia rŵan wedi penderfynu cymryd blwyddyn i ffwrdd o’i addysg cyn mynd ymlaen i’r Brifysgol ac mae’n gobeithio astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg ym Mhrifysgol Rhydychen.

Ym mis Medi 2024 ymgeisiodd Illia am swydd fel Swyddog Integreiddio ym Mwrdeistref Frenhinol Kingston upon Thames yn Llundain ac ar ôl proses ymgeisio a chyfweliad llwyddiannus, cynigiwyd y swydd iddo. Ar ôl dwy flynedd yn Sir Ddinbych, gadwodd Illia am y ddinas fawr ym mis Tachwedd 2024.

Gan siarad am ei siwrnai, dwedodd Illia:

“Gall ansicrwydd ynghylch yr hyn fydd yn digwydd i chi yn y dyfodol fod yn flinderus dros ben ond dwi’n meddwl bod pethau wedi gweithio’n dda iawn i mi a’m teulu. Ers i mi gyrraedd Sir Ddinbych, dwi wedi cyfarfod llawer o bobl fendigedig ac wedi dysgu llawer o bethau newydd. Dwi’n eithriadol o ddiolchgar i bobl Prydain am gefnogi Wcráin a’i phobl pan oedden ni gymaint o angen hynny.”

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd Oedolion:

“Yr her fwyaf i’r teuluoedd o Wcráin ar ôl iddyn nhw gyrraedd y DU oedd y rhwystrau ieithyddol ac roedd Illia yn help aruthrol yn hyn o beth. Drwy ei waith gyda ni yn y Cyngor helpodd nifer fawr o deuluoedd i fyw’n ddiogel.

Rydym yn dymuno’r gorau iddo wrth iddo symud i Lundain a hoffwn ddiolch yn fawr iddo am ei waith yma yn Sir Ddinbych."

Meddai’r Aelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas:

“Rydym eisiau diolch yn fawr iawn i Illia am ei holl help yn ystod ei amser yn Sir Dinbych. Roedd ei waith yn hollbwysig o ran helpu teuluoedd i ymgartrefu a rhagorodd Illia ym mhopeth a wnaeth yn ystod ei gyfnod yma.

Hoffwn ddymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”


Cyhoeddwyd ar: 18 Tachwedd 2024