Mae Carchar Rhuthun, carchar Fictoraidd hanesyddol yng nghanol Sir Ddinbych sydd erbyn hyn yn amgueddfa, wedi ennill y wobr Tripadvisor Traveller’s Choice Award 2024. Mae’r gydnabyddiaeth yn gosod Carchar Rhuthun ymysg yr atyniadau gorau oll, gan ddathlu ei ymroddiad i roi profiad heb ei ail i ymwelwyr.
Mae’r Traveller’s Choice Award yn cael ei ddyfarnu’n flynyddol i ddarparwyr llety, atyniadau a bwytai sy’n cael adolygiadau eithriadol o dda yn ar blatfform Tripadvisor yn gyson. Mae’r wobr yn amlygu ymrwymiad Carchar Rhuthun i ddiogelu ei hanes unigryw ac ennyn diddordeb a chwilfrydedd ymwelwyr drwy arddangosfeydd rhyngweithiol, teithiau addysgol a llwybrau teuluol.
Mae Carchar Rhuthun yn cynnig mewnwelediad go iawn i fywyd o dan ‘system dawel’ y carchar Fictoraidd, O’i islawr atmosfferig i’r llawr uwch arddull Pentonville eiconig, gall ymwelwyr brofi’r bensaernïaeth drawiadol, archwilio’r celloedd a darganfod straeon am garcharorion drwg-enwog fel Houdini Cymru. Gyda thywysydd sain manwl a digonedd o weithgareddau i ddiddanu ymwelwyr iau, mae Carchar Rhuthun yn parhau i fod yn gyrchfan y mae’n rhaid i bobl sy’n hoff o hanes a theuluoedd fel ei gilydd ymweld ag o.
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae Carchar Rhuthun yn atyniad hynod boblogaidd yr ydym yn ffodus iawn i’w gael ar ein carreg drws yma yn Sir Ddinbych.
Mae’r Carchar yn cynnig profiad unigryw i ymwelwyr ac mae’r teithiau sain yn rhoi digonedd o wybodaeth am y safle Fictoraidd.”
Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu:
“Anrhydedd o’r mwyaf yw derbyn y wobr Tripadvisor Traveller’s Choice Award.
Mae’r gydnabyddiaeth yn brawf o waith caled ac ymroddiad y tîm yma yng Ngharchar Rhuthun sy’n gweithio’n ddiflino i greu ffyrdd newydd a diddorol o ddod â hanes y carchar yn fyw.
Rydym mor falch bod ymwelwyr yn gadael wedi cael profiad maen nhw eisiau ei rannu mewn ffordd mor gadarnhaol gydag eraill ar Tripadvisor. Rydym eisiau diolch o galon i bawb sydd wedi bod yn ddigon caredig i adael adolygiad i ni.”
Mae rhagor o wybodaeth am Garchar Rhuthun ar gael yma: www.sirddinbych.gov.uk/carchar-rhuthun