Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Prif Weithredwr newydd Cyngor Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi penodiad ei Brif Weithredwr newydd.

Mae Graham Boase, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus y Cyngor, wedi'i benodi i'r rôl.

Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Mae hwn yn benodiad gwych i Sir Ddinbych a hoffwn i a’r aelodau longyfarch Graham a’i groesawu i’w rôl newydd ar ran ein staff a thrigolion y sir.

“Roedd yna broses dethol hynod o drylwyr gyda nifer o ymgeiswyr cryf yn sefyll allan ac wedi rhoi perfformiad o radd uchel iawn.

“Mae Cyngor Sir Ddinbych yn un o’r cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru ac rydym nawr yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’n Prif Weithredwr newydd i barhau â’r llwyddiant hwn i’r dyfodol.”

Dywedodd Mr Boase: “Rwy’n gyffrous iawn ar ddod yn Brif Weithredwr y Cyngor gwych hwn, ar ôl dechrau gweithio i Sir Ddinbych mor bell yn ôl â 1996.

Rwy’n hynod ddiolchgar i'r aelodau etholedig am ddangos bod ganddynt ffydd ac yn ymddiried ynof. Mae'n rhoi llawer o hyder i mi wybod eu bod wedi cefnogi fy nghynnydd o fod yn Bennaeth Gwasanaeth, i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol ac yn awr i’r Prif Weithredwr.

“Rwy’n credu fy mod yn adnabod y Cyngor yn dda ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fwrw mewn i’r swydd, siarad â’n tîm arweinyddiaeth rhagorol, aelodau etholedig ymroddedig a’n preswylwyr am ein Gweledigaeth ar gyfer y Cyngor yn y dyfodol.”

Dechreuodd Mr Boase weithio i Sir Ddinbych pan gafodd ei sefydlu nôl yn 1996, yn wreiddiol fel Uwch Swyddog Cynllunio, yn 2003 daeth yn Bennaeth Cynllunio a Gwarchod Cyhoedd ac yn 2017 cafodd ei ddyrchafu'n Gyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus. Bydd yn cychwyn fel Prif Weithredwr ar y 1af o Awst.


Cyhoeddwyd ar: 22 Gorffennaf 2021