Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cyfle i ailhyfforddi ac ennill mwy o gymwysterau i unrhyw un sy’n byw yn Sir Ddinbych, gan ganiatáu i fwy o bobl gael swydd newydd neu i symud ymlaen yn eu swyddi presennol.

Mae cyfleoedd hyfforddi hefyd yn cael eu trefnu drwy’r cynllun Dechrau Gweithio, gyda’r nod o uwchsgilio preswylwyr.

Gellir trefnu cynlluniau hyfforddi i breswylwyr sydd â diddordeb mewn gweithio mewn diwydiannau poblogaidd fel Adeiladu, Lletygarwch a Gwallt a Harddwch, ond sydd heb brofiad.

Trefnir cyrsiau drwy gydol y flwyddyn hefyd i unrhyw un sydd eisiau cymhwyster mewn Cymorth Cyntaf neu Iechyd a Diogelwch, sy’n caniatáu iddynt gael cerdyn CSCS.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn gweithio’n agos gyda cholegau lleol a darparwyr hyfforddiant eraill.

Meddai Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:

“Rwyf yn falch bod ein cyrsiau hyfforddi yn boblogaidd yn barod, roedd ein cwrs Barista diweddar yn llawn mewn ychydig ddyddiau.

Byddwn yn annog unigolion a busnesau yn y sir i gymryd mantais o’r cyfleoedd hyfforddi rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd i wella eich siawns o gael swydd sy’n talu’n well, neu os ydych yn fusnes, gwella sgiliau eich tîm.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r cyrsiau hyfforddi hyn yn gyfle i bobl Sir Ddinbych ehangu eu gorwelion, ac o bosibl, i ddod o hyd i lwybr gyrfa sy’n fwy addas i’w nodau.

Mae arnom eisiau i holl breswylwyr Sir Ddinbych fwynhau’r yrfa maent yn ei dewis, mewn maes ble gallant fynegi eu hunain a rhagori.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://forms.office.com/e/VK2Ub5Vnmu

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal nhw rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi cael £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


Cyhoeddwyd ar: 15 Chwefror 2024