Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth rhad ac am ddim wedi’u lansio, gyda’r bwriad o helpu preswylwyr Sir Ddinbych i archwilio dewisiadau gyrfa ar draws diwydiannau gwahanol. Mae’r sesiynau hyn, a gynhelir o ddiwedd mis Tachwedd a thrwy fis Rhagfyr, yn gyfle i ddysgu mwy am swyddi, datblygiad gyrfa, sgiliau, hyfforddiant, cyflog a’r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano yn y sectorau allweddol.

Dyma amserlen y digwyddiadau:

Gweithio ym Maes Coedwigaeth a Chadwraeth

  • Diwrnod Gwybodaeth: 29 Tachwedd, 11:30am – 1pm, Swyddfa Sir Ddinbych yn Gweithio, Llyfrgell y Rhyl, Stryd yr Eglwys, y Rhyl, LL18 3AA

Gweithio ym Maes Gofal Cymdeithasol

  • Diwrnod Gwybodaeth: 2 Rhagfyr, 10am – 11am, Swyddfa Sir Ddinbych yn Gweithio, Llyfrgell y Rhyl, Stryd yr Eglwys, y Rhyl, LL18 3AA

Gweithio ym Maes Gweithgynhyrchu

  • Diwrnod Gwybodaeth: 4 Rhagfyr, 1pm-2pm: Swyddfa Sir Ddinbych yn Gweithio, Stryd yr Eglwys, Llyfrgell y Rhyl, y Rhyl, LL18 3AA

Gweithio yn y Sector Lletygarwch

  • Diwrnod Gwybodaeth: 17 Rhagfyr, 1pm – 2:30pm: Swyddfa Sir Ddinbych yn Gweithio, Llyfrgell y Rhyl, Stryd yr Eglwys, y Rhyl, LL18 3AA
  • Gyda Sophie, Siaradwr Gwadd o Hamdden Sir Ddinbych.

Yn dilyn y diwrnodau gwybodaeth, bydd rhai o’r sectorau hyn hefyd yn cynnig sesiynau blasu ymarferol, gan roi cyfle i’r sawl a fynychodd gael syniad o’r amgylchedd gwaith ym mhob sector. Cynhelir sesiwn flasu’r sector Coedwigaeth a Chadwraeth ar 5 Rhagfyr rhwng 12:30pm a 4pm, a bydd sesiynau tebyg i ddilyn.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae digwyddiadau sector Sir Ddinbych yn Gweithio yn enghraifft wych o sut yr ydym yn helpu preswylwyr i ddod o hyd i yrfaoedd gwerth chweil. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi mynediad uniongyrchol i bobl at wybodaeth a chipolwg ar ddiwydiannau, sy’n ffordd wych o roi hwb i gyflogaeth leol a chryfhau ein cymuned.”

Meddai Rachael Sumner-Lewis, Rheolwr Perthnasoedd Cyflogwyr a Hyfforddiant, Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Nod ein digwyddiadau gwybodaeth am sectorau yw pontio’r bwlch rhwng ceiswyr gwaith a diwydiannau lleol. Drwy edrych yn fanwl ar bob sector, rydym yn eu cefnogi i ddatblygu sgiliau, ailhyfforddi neu hyd yn oed cael cipolwg ar y farchnad swyddi.”

I gael rhagor o wybodaeth ac er mwyn archebu eich lle, ewch i.

I gael rhagor o wybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio a’r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig drwy’r gwasanaeth, ewch i’r wefan.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.


Cyhoeddwyd ar: 20 Tachwedd 2024