Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Yn gynharach eleni, lansiodd Sir Ddinbych yn Gweithio, mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych a’r Gwasanaethau Fframwaith Ymgysylltu ac Ailsefydlu Ieuenctid, Raglen Bontio’r Haf i gefnogi’r rhai sy’n gadael Blwyddyn 11 ac yn symud i addysg bellach.

Roedd y fenter yn darparu arweiniad wedi’i dargedu ac adnoddau hanfodol i bobl ifanc sy’n gwynebu heriau megis bwlio, problemau iechyd meddwl a datgysylltu o’u haddysg.

Cofrestrodd 26 o unigolion ar y rhaglen, unigolion oedd mewn perygl o beidio â symud ymlaen oherwydd rhwystrau personol ac ariannol. Roedd sesiynau wythnosol yn canolbwyntio ar eu helpu i bontio’n llyfn i’r cam nesaf drwy gynnig cefnogaeth iechyd meddwl, cynllunio pontio ac arweiniad ar sicrhau pethau hanfodol fel offer ar gyfer y coleg ac agor cyfrifon banc.

Roedd gan Dîm Lles Sir Ddinbych yn Gweithio, Barod, rôl hanfodol i ymdrin â rhwystrau ariannol, gan sicrhau bod gan y myfyrwyr bopeth yr oeddent eu hangen ar gyfer eu cyrsiau. O’r 26 a gymerodd ran, cafodd 23 gymorth ariannol i gael deunyddiau ar gyfer cyrsiau, a chafodd 21 ohonynt liniaduron a chlustffonau i gefnogi eu hastudiaethau o ganlyniad i gydweithio gyda Chwmpas.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Rwyf yn falch iawn o weld yr effaith gadarnhaol y mae Rhaglen Bontio’r Haf wedi ei chael ar ein pobl ifanc. Mae sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth gywir i bontio’n llyfn i addysg bellach yn hanfodol, yn enwedig i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau.

Mae’r fenter yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio greu newid gwirioneddol, parhaol yn ein cymuned.

Rwyf yn hynod falch o bawb sy’n rhan o’r gwaith ac yn dymuno pob llwyddiant i’r rhai a gymerodd ran ar gyfer eu haddysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:

“Rwyf yn hynod falch o’r gefnogaeth mae gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio wedi gallu ei darparu.

Gweithio mewn partneriaeth yw conglfaen ein dull o weithio ac mae’r canlyniadau rhyfeddol hyn yn dangos mor bwerus yw cydweithio er lles ein pobl ifanc.

Bydd effaith y gefnogaeth hon yn gadael gwaddol am flynyddoedd, nid dim ond i’r rhai a gefnogwyd, ond hefyd eu ffrindiau a theulu o ystyried y wybodaeth a’r profiad y byddant yn eu rhannu.

Gan ddymuno’r gorau iddynt yn eu haddysg yn y dyfodol, rwy’n gobeithio y byddant yn gwneud y gorau o’r hyn sydd ar gael iddynt rŵan a phan fyddant yn cwblhau eu hastudiaethau. Mae ein drws bob amser ar agor i’w helpu i symud ymlaen i’w gyrfaoedd perffaith.”

Un o uchafbwyntiau’r rhaglen oedd y synnwyr o gymuned a chefnogaeth a gafodd ei feithrin ymhlith y bobol ifanc. Roedd llawer ohonynt wedi cael eu hynysu ac wedi bod allan o’r ysgol am gyfnodau hir, ond helpodd y sesiynau nhw i ffurfio cyfeillgarwch a meithrin hyder mewn lle diogel a chefnogol.

Mae llwyddiant y rhaglen wedi’i adlewyrchu yn ymrwymiad y cyfranogwyr i addysg bellach. Roedd presenoldeb 35% o’r myfyrwyr yn 100%, ac roedd presenoldeb 78% ohonynt dros 80%, sy’n dangos mor hanfodol oedd y gefnogaeth yn ystod yr haf i gadw eu diddordeb a’u brwdfrydedd.

Dywedodd Sian Morgan, Rheolwr Ymgysylltu a Chynnydd:

“Mae Rhaglen Bontio’r Haf i’r rhai sy’n gadael Blwyddyn 11 wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae’n wych gweld y bartneriaeth rhwng y Gwasanaethau Addysg, y Gwasanaethau Ieuenctid, a Barod, yn gweithio i gefnogi dysgwyr ar eu taith i addysg bellach. Rydym yn edrych ymlaen yn barod at adeiladu ar y llwyddiant hwn y flwyddyn nesaf gydag ymyrraeth gynharach a chefnogaeth bontio am fwy o amser.”

Mae’r rhaglen hon yn fodel pwerus ar gyfer ymdrechion yn y dyfodol sydd â’r nod o gefnogi pobl ifanc diamddiffyn i barhau â’u haddysg.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Caiff Gweithio Sir Ddinbych ei ariannu'n rhannol gan lywodraeth y DU.


Cyhoeddwyd ar: 05 Tachwedd 2024