Mae gan fenter Meicro-ddarparwyr, sy’n cael ei redeg gan Gyngor Sir Ddinbych, dros 50 o fusnesau yn gweithredu o fewn Sir Ddinbych, sydd yn darparu gofal a chefnogaeth i bobl hŷn a phobl anabl yn eu cartrefi eu hunain, gan eu helpu i fyw bywyd eu ffordd eu hunain.
Gyda’i gilydd, mae’r 52 o fusnesau yn darparu oddeutu 850 awr o ofal a chefnogaeth yn Sir Ddinbych i dros 220 o breswylwyr bob wythnos.
Mae’r fenter Meicro-ddarparwyr yn cynnig rhaglen ddatblygu rhad ac am ddim i gefnogi trigolion i sefydlu eu gwasanaeth darparwr micro eu hunain yn eu cymunedau lleol.
Mae’r busnesau hyn yn helpu dinasyddion mewn sawl gwahanol ffordd, yn cynnwys rhoi cymorth ymarferol o amgylch y tŷ, glanhau, helpu i baratoi prydau bwyd, DIY, siopa, gofal personol, mynd â chŵn am dro, cadw cwmni a llawer mwy.
Mae modd ymuno â’r cynllun am ddim ac mae’n helpu pobl yn Sir Ddinbych allu gweithio iddyn nhw eu hunain, yn lleol ac yn eu caniatáu i ddewis eu horiau eu hunain. Hefyd mae’n golygu bod y busnesau hyn yn helpu pobl leol yn eu cymuned.
Mis Ionawr llynedd, roedd 20 o Meicro-Ddarparwyr yn gweithredu o fewn Sir Ddinbych, gyda dros 30 o fusnesau newydd wedi eu sefydlu yn 2023.
Meddai Nick Hughes, Dirprwy Reolwr Tîm, Tîm Ffiniau Gofal:
“Mae’n wych i gyrraedd carreg filltir o dros 50 o feicro-ddarparwyr, a gweld y gwaith gwych y maent i gyd yn ei wneud i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain am amser hirach. Gobeithio y cawn flwyddyn brysur eto!”
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae menter meicro-ddarparwyr yn parhau i ffynnu, gan ddarparu ystod o wasanaethau hanfodol i breswylwyr lleol yn ein cymuned.
Mae’r ffaith bod dros 50 o fusnesau yn dystiolaeth o’i llwyddiant, ac edrychaf ymlaen at weld y twf parhaus.”
Am fwy o wybodaeth ewch i.