Enillodd Sara Thelwell, Therapydd Galwedigaethol yng Nghyngor Sir Ddinbych, Wobr Arloesi Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol ym mis Chwefror eleni a oedd yn caniatáu iddi fynd ar daith ymchwil i Wlad Belg i gael profiad o’r maes gwaith mewn gwlad wahanol.
Mae’r wobr arloesi yn darparu cymorth ar gyfer prosiect neu weithgaredd arloesol neu ddatblygiadol sy’n debygol o gael effaith ar bobl sy’n cael mynediad at wasanaethau therapi galwedigaethol neu ofalwyr a’r alwedigaeth.
Bu i’r cyllid o’r wobr hon ganiatáu i Sara fynd i Wlad Belg ym mis Mawrth, lle treuliodd 2 ddiwrnod mewn cartref gofal yng Ngwlad Belg yn arsylwi sut oeddent yn gwneud gofal osgo 24 awr, sy’n cynnwys sut mae preswylwyr â dementia yn cael eu hymolchi a’u gofalu amdanynt yn ystod eu bywyd bob dydd.
Bu iddi weithio gyda’r ffisio adnabyddus Jo De Clercq ac astudio’r dull gofal y gwely, Troi Dim Ond Unwaith, sydd wedi arwain at nifer is o unigolion yn datblygu anafiadau pwysedd a chrebachdod. Egwyddorion y dull hwn yw bod dinasyddion yn cael eu gofalu amdanynt heb fawr o gyffyrddiad ond un cywir a llawer llai o godi.
Wrth siarad am y daith, dywedodd Sara:
“Rwyf wedi cael llawer o anogaeth gan y tîm i ymchwilio i ffyrdd arloesol o weithio a chyflwyno syniadau newydd a fyddai’n elwa preswylwyr Sir Ddinbych, ac rwy’n teimlo bod hyn yn elfen gadarnhaol iawn o weithio i Sir Ddinbych.
Yn dilyn fy ymweliad, mae’r cyllid hefyd wedi galluogi i Jo De Clercq ddod yma a darparu sesiynau hyfforddiant, hyd yn hyn dim ond 3 ohonynt sydd wedi’u cynnal ar draws y DU ac Iwerddon. Mae ychydig o bethau y dysgais yr ydym yn gobeithio eu rhoi ar waith yn ein harferion gofal.”
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae hi bob amser yn braf clywed bod aelodau o staff Sir Ddinbych yn cael eu cydnabod am eu gwaith caled a’u hymroddiad i’w swyddi. Roedd taith ymchwil Sara i Wlad Belg yn gyfle haeddiannol ac edrychaf ymlaen at y mewnwelediadau gwerthfawr a ddaw yn sgil y profiad hwn”.
I gael rhagor o wybodaeth am swyddi a gyrfaoedd gyda Chyngor Sir Ddinbych, cliciwch ar y ddolen isod:
https://www.denbighshire.gov.uk/cy/swyddi-a-gweithwyr/gweithio-i-ni/gweithio-gyda-ni.aspx