Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa trigolion o newidiadau i’w parciau ailgylchu a gwastraff.

O 1 Ebrill, bydd y prif safleoedd yn Ninbych, Rhuthun a’r Rhyl yn cael eu rheoli gan fenter gymdeithasol o’r enw Bryson Recycling, fel rhan o gontract ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Bydd y contract newydd yn cynyddu cyfraddau ailgylchu, cyflwyno rhagor o weithgareddau ailddefnyddio a gweithredu dull economi gylchol leol ar gyfer ailgylchu.

Yn ogystal â hynny, bydd yn galluogi parciau i ymestyn eu horiau agor, gwella mynediad, derbyn rhagor o eitemau yn safleoedd Rhuthun a Dinbych ac yn cynnig compost am ddim, a bydd modd i drigolion Sir Ddinbych ddefnyddio parciau ailgylchu a gwastraff Conwy yn Abergele a Mochdre hefyd.

Fel rhan o’r newidiadau, bydd ffi fechan yn cael ei chodi ar drigolion sy’n dewis dod â gwastraff nad yw o’r cartref i’r parciau, megis gwastraff DIY ac adeiladu.

Ystyrir y math hwn o wastraff fel gwastraff diwydiannol, nid gwastraff y cartref, a dim ond costau casglu, ailgylchu a gwaredu gwastraff y cartref mae Treth y Cyngor yn ei gynnwys.

Dywedodd y Cyng. Brian Jones: “Mae cydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i benodi un gweithredwr wedi ein galluogi i ddarparu gwerth am arian i’n trigolion, drwy ostwng costau rheoli a chynyddu’r gwastraff a gaiff ei ailgylchu gennym.

“Mae’r contract newydd hefyd yn cynnwys rhagor o fentrau gwyrdd, megis cynnig compost am ddim i ddefnyddwyr y safle ac ardal ‘Dewis i Ailddefnyddio’ newydd ym mhob safle lle gall cwsmeriaid helpu eu hunain i ddeunydd defnyddiol y mae pobl eraill wedi eu prynu, siop ailddefnyddio elusennol ar safle’r Rhyl a rhagor o gefnogaeth ar gyfer prosiectau ailddefnyddio o fewn ein cymunedau.

“Mae Bryson hefyd yn addo rhoi £1 am bob tunnell o wastraff a gaiff ei ailgylchu i Hosbis Sant Cyndeyrn.

“Dan y contract newydd, ni chodir tâl am wastraff y cartref (gwastraff sy’n cael ei greu’n ddyddiol yn eich cartref).

“Nid yw'r Cyngor yn gorfod derbyn deunyddiau DIY neu adeiladu i'w waredu, er bod y gwastraff yn dod o eiddo domestig. Fodd bynnag, rydym yn deall bod preswylwyr yn creu’r math hwn o wastraff o bryd i’w gilydd, rydym yn ei dderbyn yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, gyda ffi fechan i’w dalu am gostau trin a gwaredu’r gwastraff.

“Nid yw’r ffioedd wedi cael eu dylunio i wneud elw, ac maent yn cael eu cadw mor isel â phosib i bawb.

“Cyflwynwyd y newid hwn i’n galluogi i leihau’r costau cyffredinol sydd ynghlwm â darpariaeth y gwasanaeth i helpu’r Cyngor i reoli cyllideb gytbwys a pharhau i gefnogi ein gwasanaethau blaenoriaethol ar gyfer pobl Sir Ddinbych.

“Bydd cyflwyno ffi fechan yn helpu i atal busnesau rhag gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon ar ein safleoedd. Er gwaethaf y mesurau llym sydd ar waith i atal hyn, gwyddom fod gwastraff sy’n deillio o weithgarwch masnachol yn canfod ei ffordd i’n safleoedd gan bobl sy’n honni mai gwastraff o’r cartref ydynt.”

Bydd yn rhaid talu i waredu deunydd DIY ac adeiladu megis rwbel, plastrfwrdd, asbestos, poteli nwy, teiars a deunydd inswleiddio.

Meddai Gareth Walsh, Rheolwr Cyffredinol Bryson Recycling: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill y contract hwn a chael y cyfle i gyflwyno ein menter cymdeithasol i’r tair safle yn Sir Ddinbych. Byddwn yn canolbwyntio ar gynyddu ailgylchu ac ailddefnyddio ar y safleoedd, a sicrhau bod ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu yn brofiad hawdd a dymunol.”


Cyhoeddwyd ar: 17 Mawrth 2022