Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae preswylwyr Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa i ddilyn canllawiau Covid-19 i helpu i atal lledaeniad pellach o'r feirws.

Gyda phryderon ynghylch lledaenu’r amrywiolyn Delta, mae Cyngor Sir Ddinbych yn gofyn i breswylwyr wneud eu rhan.

Mae hyn yn cynnwys dilyn canllawiau presennol Llywodraeth Cymru:

Dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol gyda phobl nad ydych yn byw â hwy neu nad ydynt yn eich aelwyd estynedig.

Gwisgo gorchudd wyneb (os ydych yn gallu) ym mhob man cyhoeddus dan do.

Ffurfio aelwyd estynedig gyda dim mwy na dwy aelwyd arall a dylent aros yr un fath.

Peidio â chyfarfod ag unrhyw un heblaw eich aelwyd estynedig dan do.

Peidio â chyfarfod gyda mwy na phump o bobl eraill mewn lleoliadau dan do a reoleiddir, megis caffis, bwytai a thafarndai.

Peidio â chyfarfod â mwy na 29 o bobl yn yr awyr agored gan gynnwys gerddi preifat, mannau cyhoeddus a safleoedd a reoleiddir, gan gadw pellter cymdeithasol.

Gweithio o gartref os ydych yn gallu.

Ceisio peidio â theithio i ardaloedd ble mae nifer uchel o achosion.

Rhaid i chi hunan-ynysu yn syth os oes gennych chi, neu unrhyw un yn eich cartref, symptomau Covid-19 a mynd i gael prawf cyn gynted â phosib.

Dywedodd y Cyng. Mark Young, Aelod Arweiniol y Cyngor ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel, Cyngor Sir Ddinbych: “Tra bod nifer yr achosion o coronafeirws yn Sir Ddinbych yn parhau yn isel, mae’n hanfodol ein bod yn dilyn y canllawiau i sicrhau ein bod yn atal unrhyw ledaeniad posib.

“Mae hyn yn cynnwys trefnu prawf yn syth os ydych yn datblygu unrhyw symptomau Covid-19 ac yn dilyn prawf positif, dylai preswylwyr rannu’r holl wybodaeth berthnasol gyda swyddogion ac ymgynghorwyr olrhain. Gallai cadw’r wybodaeth oddi wrthynt beryglu iechyd eich ffrindiau, teulu a’r gymuned ehangach.

“Atgoffir preswylwyr i ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo yn rheolaidd ac wrth gyfarfod â phobl dan do i gadw ffenestri a drysau ar agor i awyru. Mae’r brechlyn yn parhau i gael ei ddarparu a byddaf yn annog pawb sy’n cael y cyfle i gael y brechlyn i wneud hynny.

“Mae preswylwyr wedi aberthu llawer yn ystod y pandemig ac mae hyn wedi helpu i amddiffyn ein cymunedau a chadw ein ffrindiau a’u teulu yn ddiogel ac ar ran y Cyngor hoffwn ddiolch iddynt i gyd.”

Gallwch bellach gael prawf Covid-19 am ddim os oes gennych ystod ehangach o symptomau sy'n cynnwys symptomau tebyg i'r ffliw, na achoswyd gan gyflyrau sy'n wybyddus megis clefyd y gwair, gan gynnwys poen cyhyr, blinder llethol, cur pen parhaus, trwyn yn rhedeg; tisian yn barhaus; dolur gwddf a/neu gryglyd, byr o anadl neu frest dynn; teimlo’n sâl yn gyffredinol.

Mae'r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn https://llyw.cymru/coronafeirws a gallwch drefnu prawf yn http://www.gov.uk/get-coronavirus-test , ac i gael mwy o wybodaeth ar yr ystod ehangach o symptomau ewch i https://bipbc.gig.cymru/covid-19/profi-olrhain-diogelu/profi-symptomau-ehangach/

 


Cyhoeddwyd ar: 10 Mehefin 2021