Mae Tîm Adnoddau Cymunedol y Cyngor, sydd wedi’i leoli yn Rhuthun, wedi ei gydnabod fel ‘Tîm Gwych’ fel rhan o ymgyrch ‘Gweithwyr Cymdeithasol Gwych’ BASW (Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain) yn ystod mis Gwaith Cymdeithasol.
Mae’r ymgyrch yn cydnabod cyflawniadau unigol ac ar y cyd mewn gwaith cymdeithasol ar draws y DU gyfan. Mae’r holl enwebiadau yn cael eu beirniadu yn seiliedig ar eu cyfraniad eithriadol i’r proffesiwn, ac enghreifftiau o waith arbennig yn cefnogi pobl.
Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:
“Mae’n wych bod ein Tîm Ardal y De yn Sir Ddinbych wedi ei gydnabod fel Tîm Gwych.
Mae’r tîm yn arddangos gwerthoedd Gofal Cymdeithasol yn ddyddiol trwy eu tosturi, eu hymroddiad a’u hymrwymiad i gefnogi ein dinasyddion. Rwy’n hynod falch o bob un ohonynt.”
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Rwy’n hynod falch o weld ein Tîm Adnoddau Cymunedol yn cael ei gydnabod yn yr ymgyrch eleni.
Mae’r tîm yn gweithio’n galed iawn, gan gefnogi rhai o’n preswylwyr mwyaf diamddiffyn ar draws Sir Ddinbych, ac mae’n wych gweld eu hymroddiad yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm!”