Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Bydd Cyngor Sir Dinbych yn cynnal ymgynghoriad tair wythnos ar gynigion mawr ar gyfer canol tref Llangollen.

Crëwyd cynllun Gwella Stryd y Castell Llangollen 2020 gyda mewnbwn gan y gymuned ac mae'n ceisio gwella Stryd y Castell a rhai strydoedd cyfagos yng nghanol tref Llangollen.

Bwriad y cynigion yw lleihau tagfeydd traffig a pharcio, gwella cyfleusterau i gerddwyr a gwella ansawdd y parth cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Wastraff, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd: “Dros y tair blynedd diwethaf mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â grŵp Llangollen 2020 i ddatblygu’r cynigion hyn.

“Mae grŵp Llangollen 2020 yn grŵp a arweinir gan y gymuned ac mae wedi ymgynghori â’r gymuned leol o’r blaen wrth ddatblygu’r cynigion, ond rŵan hoffai’r Cyngor gael barn y gymuned ar fersiwn ddiweddaraf y cynigion.

“Mae cyllid mewn lle i gyflawni’r cynllun yn hydref a gaeaf 2021-22. Fodd bynnag, nid oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud gan y Cyngor eto ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r cynllun gan y bydd hyn yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad.

“Rydym hefyd yn ymwybodol o bryderon a godwyd ynghylch y goeden acacia ger Neuadd y Dref. Y sefyllfa bresennol yw bod cyflwr y goeden yn dal i gael ei hasesu gan arbenigwyr coed ac nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ynglŷn â dyfodol y goeden. ”

Bydd ymarfer ymgynghori tair wythnos yn dechrau ddydd Mawrth, Mehefin 15fed a bydd yn cau ar Orffennaf y 6ed.

Yn ystod ail wythnos yr ymgynghoriad, cynhelir arddangosfa gyhoeddus o'r cynigion yng Nghanol Tref Llangollen ac mae'r Cyngor hefyd yn bwriadu siarad â busnesau Stryd y Castell i roi'r cyfle iddynt drafod y cynigion gyda swyddogion.

Darperir manylion llawn yr ymgynghoriad a'r arddangosfa gyhoeddus yn fuan.

 


Cyhoeddwyd ar: 03 Mehefin 2021