Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio, gwasanaeth cyflogadwyedd sy’n cael ei redeg gan Gyngor Sir Ddinbych, yn trefnu cyfres o weithdai lles i baratoi ar gyfer Mis Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Straen ym mis Ebrill.

Bwriad y gweithdai hyn, sy’n cael eu cynnal gan y tîm Barod, yw cefnogi unigolion sydd yn ddi-waith ar hyn o bryd ac sy’n cael problemau gyda’u hyder, cymhelliant, a’u lles yn gyffredinol, i’w helpu i oresgyn eu heriau a dod o hyd i gyfleoedd gwaith.

I baratoi ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth o Straen, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn tynnu sylw at gynnig y tîm Barod a’r ystod eang o ddigwyddiadau y maent yn eu trefnu i hyrwyddo lleihau straen a gwella lles yn gyffredinol.

Ar 12 Ebrill, cynhelir gweithdy diwrnod llawn yng Nghanolfan Naylor Leyland yn Rhuthun, wedi’i ddylunio i godi’r hwyliau a rhoi technegau ymarferol i’r cyfranogwyr er mwyn iddynt allu delio â straen yn effeithiol. Yn ogystal â hyn, bydd gweithdy cynhwysol deuddydd sy’n canolbwyntio ar hyder a chymhelliant yn cael ei gynnal yn Ne’r Sir ar 16 Ebrill a 19 Ebrill ac yng Ngogledd y Sir ar 23 Ebrill a 26 Ebrill.

Er mwyn datblygu ymdeimlad o gymuned a chefnogaeth, mae Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd wedi trefnu sesiynau Cerdded a Sgwrsio rhyngweithiol a fydd yn cael eu cynnal o gwmpas y Sir bob dydd Llun o 8 Ebrill ymlaen. Mae’r rhaglen hon yn cyfuno ymarfer corff ysgafn gyda deialog ystyrlon, gan gynnig strategaeth gynhwysfawr ar gyfer mynd i’r afael ar straen a gwella lles meddyliol i’r rhai sy’n cymryd rhan.

Gall trigolion Sir Ddinbych hefyd fynychu sesiynau galw heibio wythnosol bob dydd Iau i gael cefnogaeth gyda lles neu hyder mewn amgylchedd meithringar a hamddenol. Gall trigolion 25+ oed ymweld â Hwb Dinbych rhwng 12pm – 1pm neu Lyfrgell y Rhyl rhwng 11.15am – 12.15pm, a gall trigolion 16-24 oed ymweld â Hwb Dinbych rhwng 1.30pm - 2.30pm neu Ganolfan Ieuenctid y Rhyl rhwng 1pm – 2.30pm.

Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Gweithredol Sir Ddinbych Yn Gweithio, “Mae’r digwyddiadau a’r gweithdai a drefnwyd gan Sir Ddinbych yn Gweithio yn arddangos ymrwymiad y gwasanaeth i wella lles cyffredinol trigolion Sir Ddinbych, yn benodol yn ymwneud â’r heriau sy’n gysylltiedig â straen ac ansicrwydd.

“Nid yn unig y mae mentrau Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhoi sgiliau a strategaethau hanfodol i unigolion er mwyn iddynt allu llywio’r farchnad swyddi yn effeithiol, ond maent hefyd yn blaenoriaethu iechyd meddwl a gwydnwch emosiynol fel pileri sylfaenol ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy a boddhad personol.

“Byddaf yn annog unrhyw un sy’n byw yn Sir Ddinbych ac sy’n 16+ oed ac yn chwilio am waith, neu sy’n ystyried chwilio am waith, i fanteisio ar y digwyddiadau a’r gweithdai rhad ac am ddim sydd i ddod.

Meddai Liz Grieve, Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau, “Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei gydnabod gan bobl fel ffagl o obaith a chefnogaeth i unigolion sy’n ceisio llywio cymhlethdodau’r farchnad swyddi wrth ddiogelu eu lles meddyliol. Mae effaith ddwys mentrau’r tîm Barod a’r gyfres o ddigwyddiadau sydd i ddod yn dangos pŵer trawsnewidiol cefnogaeth gymunedol, gwydnwch a grymuso.”

Am fanylion llawn o’r digwyddiad, yn cynnwys lleoliad, amseroedd a dyddiadau, ewch i wefan Swyddi Den.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal nhw rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Nodiadau:

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 


Cyhoeddwyd ar: 28 Mawrth 2024